• This website is available in English

Posts From Medi, 2017

  • IBC Logo

    Yma fe welwch yr holl newyddion am InfoBase gan gynnwys diweddariadau ar y system a’i chynnwys.

    Cyfrif Hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith (Awst 2017)

    Mae ffigyrau diweddaraf (Awst 2017) cyfrif hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith nawr ar gael yn dilyn diweddariad y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

    Prisiau tai cyfartalog (Gorffennaf 2017)

    Mae’r data ar gyfer Gorffennaf 2017 am brisiau tai cyfartalog ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan y Gofrestrfa Tir yn ddiweddar.

    Data Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (PAMs) 2016-17 wedi’u cyhoeddi

    Mae data Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (PAMs) ar gyfer 2016-17 wedi cael eu cyhoeddi.

    Dylai ymholiadau am y data gael eu hanfon at PIenquiries.

    Terfynu set ddata budd-daliadau yn ôl math

    Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi terfynu ystadegau budd-daliadau yn ôl math ac felly ni fydd y data hwn yn cael ei ddiweddaru bellach.

    Byddwn yn ychwanegu rhai dangosyddion budd-daliadau newydd DWP yn ôl awdurdod lleol ac ardal leol cyn bo hir.

    Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan NOMIS.

    Absenoldeb o’r ysgol: Ysgolion Uwchradd (BA 2016-17)

    Mae’r data ar gyfer 2016-17 am absenoldeb o’r ysgol mewn ysgolion uwchradd ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

    Data digwyddiadau tân, thanau â phresenoldeb a larymau mwg (2016-17)

    Mae’r data ar gyfer 2016-17 am ddigwyddiadau tân, thanau â phresenoldeb a larymau mwg nawr ar gael yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Diweddariadau data
  • Data Unit LogoRydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad monitro cyntaf o’n cydymffurfiaeth â’n Rheoliadau Safonau’r Gymraeg.

    O’r 25 Ionawr 2017, mae’r Uned Ddata wedi ymrwymo i Reoliadau Safonau’r Gymraeg a osodir gan Lywodraeth Cymru dan Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r Safonau yma yn gosod disgwyliadau pendant arnom ni i gynnig gwasanaethau Cymraeg i’n cwsmeriaid ac i hybu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg o fewn gwasanaethau.

    Mae ein hadroddiad monitro yn darparu gwybodaeth ar ein cydymffurfiaeth, unrhyw gamau gweithredu rydym wedi cynnal, yn ogystal â darparu gwybodaeth ar unrhyw gwynion yn ymwneud â’n gydymffurfiaeth â’r Rheoliadau Safonau’r Gymraeg a dderbyniwyd. Rydyn yn falch i ddweud nad ydym wedi derbyn unrhyw gwynion yn 2016-17.

    Gallwch ddod o hyd i’r adroddiad yma.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Data Unit Logo

    Mae perfformiad awdurdodau lleol yn parhau i wella…

    Mae data am 2016-17 yn dangos bod perfformiad ALi wedi gwella mewn 64% o ddangosyddion

    Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Uned Ddata yn dangos bod perfformiad wedi gwella mewn 64% o ddangosyddion cymaradwy i’w gymharu a 2015-16.

    Mae’r bwlch mewn perfformiad (rhwng yr awdurdodau sy’n perfformio orau a’r rhai gwaethaf) wedi’i gulhau mewn dros hanner o’r dangosyddion.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad
  • MyLocalCouncil Logo

    Ffordd rwydd o weld sut mae FyNghyngorLleol yn perfformio

    Heddiw diweddarwyd gwefan sy’n bwriadu helpu’r cyhoedd i ddeall sut mae eu cyngor lleol yn perfformio gyda’r data diweddaraf am berfformiad awdurdodau lleol ar gyfer 2016-17.

    Mae’r wefan yn gadael i ddefnyddwyr weld sut mae eu hawdurdod nhw yn cymharu ag eraill ledled Cymru, sut mae’n cymharu â chyfartaledd Cymru, a sut mae ei berfformiad wedi amrywio dros y blynyddoedd diwethaf.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor