• This website is available in English

Hysbysiadau Yng Nghategori: NIE

  • NIE2018

    Edrychodd ein digwyddiad 2018 ‘Ydym ni’n gwneud gwahaniaeth? Deall ein heffaith ar lesiant‘, a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd, ar sut roedd deddfwriaeth newydd, disgwyliadau newydd a dulliau gwahanol o weithio yn golygu bod angen i’r sawl sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru feddwl yn wahanol am sut maent yn gwerthuso ac yn mesur effeithiolrwydd ac effaith polisïau, gweithredoedd ac ymyriadau. Roedd y diwrnod yn cynnwys ystod eang o sesiynau addysgiadol a rhyngweithiol, a’u bwriad oedd rhoi atebion a syniadau ymarferol i gynadleddwyr iddynt eu defnyddio o fewn eu sefydliadau eu hunain.

    Roedd gennym ddau siaradwr i’r cyfarfod llawn hefyd sy’n adnabyddus yn eu priod feysydd sef dylunio gwasanaethau cyhoeddus a defnydd data llesiant wrth werthuso ymyriadau. Roedd y ddau yn gallu cynnig safbwynt o’r tu allan i Gymru. Llwyddant i sbarduno trafodaethau mawr gan helpu’r cynadleddwyr i nodi dulliau newydd o feddwl, dulliau o weithio ac atebion posibl i rai o ystyriaethau ‘drygionus’ Cymru.

    Ewch i dudalen 'crynodeb' ar ein gwefan am fwy o wybodaeth am y diwrnod.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: NIE
  • Daeth mwy na 100 o gynrychiolwyr i’n pumed Digwyddiad Hysbysrwydd Cenedlaethol – Cynllunio gyda’n gilydd i wella llesiant lleol: Beth sy’n gweithio? ddydd Iau 2 Mawrth 2017 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

    Clywodd y cynadleddwyr oddi wrth amrediad o siaradwyr gan gynnwys Christopher Stevens, Pennaeth Cangen Cynllunio a Phartneriaeth a Claire Germain Pennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru. Hefyd clywsom oddi wrth Liz Zeidler, Prif Weithredwr Happy City. Rhannodd Liz brofiadau Happy City gan gynnwys eu dulliau a’u hymagweddau at lesiant cynaliadwy i bawb.

    Roedd nifer o sesiynau grwpiau trafod gyda siaradwyr o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, Prifygsol Coventry, Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, Prifysgol Caerdydd, Swyddfa’r Comisiynydd Plant, Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn, Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Sefydliad Cymdeithas, Iechyd a Llesiant Caerdydd (CISHeW).

    Daeth Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, â’r diwrnod i ben gan rannu ei meddyliau ar yr asesiadau drafft ar lesiant lleol a’i disgwyliadau am y flwyddyn o’n blaen. Dilynwyd hyn gan sesiwn holi ac ateb gyda’r Comisiynydd.

    Mae’r adborth o’r digwyddiad wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yma. Mae’r cyflwyniadau ar gael ar ein gwefan.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: NIE
  • Roeddem ni wrth ein bodd i fwy na 100 i gynadleddwyr ddod i’r digwyddiad, gan gynrychioli dros 40 o sefydliadau.

    Mae’r adborth o’r digwyddiad wedi bod yn bositif iawn. Yn ôl dadansoddiad o’r ffurflenni gwerthuso:

    Roedd 100% o’r ymatebwyr yn meddwl bod y cynnwys yn berthnasol

    Roedd 100% o’r ymatebwyr yn meddwl bod y cynnwys yn ddefnyddiol

    Roedd canmoliaeth fawr am ein trefniadau cyn y digwyddiad hefyd, gyda 98% o’r ymatebwyr yn cytuno iddynt dderbyn yr holl fanylion angenrheidiol i’w galluogi i fynychu’r gynhadledd.

    O ran trefniadaeth gyffredinol y digwyddiad, dwedodd 91% o’r ymatebwyr ei bod yn dda iawn.

    Roedd sylwadau’n cynnwys:

    ‘Un o’r cynadleddau gorau, mwyaf defnyddiol dwi wedi eu mynychu ers sbel.’

    ‘Roedd cynnwys y digwyddiad – y siaradwyr/ y cyflwyniadau a’r gweithdai a fynychais o ansawdd uchel, yn berthnasol i’r pwnc ac i’m rôl a chyfrifoldebau i.’

    ‘Roedd amseriad y sesiwn yn berffaith am gyflwyniad y deddfau newydd ac roedd y ffocws ar y materion ymarferol yn werthfawr iawn ac yn union y math o beth dylai’r digwyddiadau hyn ei wneud.’

    Mae fideos o’r prif gyflwyniadau wedi cael eu postio ar-lein hefyd. Mae’r rhain ar gael ar sianel YouTube Uned Ddata Cymru.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: NIE
  • National intellignce Event Data Unit stand
    National intelligence Event Andrew Stephens speaking
    National intelligence Event workshops

    Pedwerydd Digwyddiad Hysbysrwydd Cenedlaethol yn taro’r nod, eto!

    100 o gynadleddwyr a fynychodd ein pedwerydd Digwyddiad Hysbysrwydd Cenedlaethol – ‘Sut mae hi MEWN GWIRIONEDD’ – Deall llesiant – newid mawr yng Nghymru – ddydd Iau 3 Mawrth 2016 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

    Clywodd y cynadleddwyr oddi wrth amrediad o siaradwyr gan gynnwys Christopher Stevens, Pennaeth Cangen Cynllunio a Phartneriaeth a Claire Germain Pennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru.

    Clywsom ni hefyd oddi wrth Dr. Alan Netherwood o Netherwood Sustainable Futures a siaradodd am ei waith gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) ar Raglen Mabwysiadwyr Cynnar Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a gwaith am lywodraethu yn y dyfodol ym Mhrifysgol Caerdydd i archwilio sut y gall anghenion cenedlaethau’r dyfodol gael eu cynrychioli mewn asesiadau llesiant.

    Roedd nifer o sesiynau trafod gyda siaradwyr o Swyddfa Archwilio Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfranogiad Cymru, Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, Dinas a Sir Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

    Russell De’Ath, Cynghorydd Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, ddaeth â’r diwrnod i ben, gan siarad am sut mae Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn rhoi ffocws arbennig i Cyfoeth Naturiol Cymru wrth gyfathrebu risgiau a chyfleoedd mae rheoli adnoddau naturiol yn eu cynnig ar gyfer llesiant dynol, a sut maent yn mynd ati i ddelio â’r her newydd a sut y bydd hyn yn llywio asesiadau o lesiant a chynlluniau llesiant.

    Mae adborth o’r digwyddiad wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yma. Cyflwyniadau a ffilm fideo ar gael yn awr.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: NIE