• This website is available in English

Hysbysiadau Yng Nghategori: Cyhoeddiad

  • Perfformiad

    Mae perfformiad awdurdodau lleol yn parhau i wella…

    Mae data am 2015-16 yn dangos bod perfformiad ALi wedi gwella mewn 65% o ddangosyddion.

    Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddi gan yr Uned Ddata yn dangos bod perfformiad wedi gwella mewn 65% o ddangosyddion cymaradwy i’w gymharu a 2014-15.

    Mae’r bwlch mewn perfformiad (rhwng yr awdurdodau sy’n perfformio orau a’r rhai gwaethaf) wedi’i gulhau mewn dros hanner o’r dangosyddion.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad
  • Data Unit Logo

    Canllawiau Mesur Atebolrwydd Cyhoeddus 2016-17

    Mae Canllawiau Mesur Atebolrwydd Cyhoeddus 2016-17 ar gael bellach.

    Dylai ymholiadau am y dangosyddion PAMs neu’r arweiniad gael eu hanfon at pienquiries@unedddatacymru.gov.uk.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad
  • Cawsom ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i adolygu mecanwaith dyrannu presennol Grant Amddifadedd Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar a gwneud argymhellion a allai’r dull presennol gael ei wella’n ymarferol.

    Wrth ymgymryd â’r adolygiad ystyriom ni:

    • addasrwydd y dull presennol o ddyrannu’r grant;
    • archwilio’r dull a fabwysiadwyd mewn gwledydd eraill am ariannu’r math hwn o gymorth ac ystyried eu haddasrwydd yng nghyd-destun Cymru; ac
    • ystyried rhai dulliau amgen posibl yn fanwl, gan gynnwys darparu darlun o sut allai’r dyraniad edrych; a
    • gofyn am farn awdurdodau lleol a sefydliadau dysgu.

    Nid yw ein hadolygiad wedi nodi unrhyw broblemau sylfaenol gyda’r dull dyrannu presennol y Grant. Serch hynny, rydym wedi nodi nifer fach o welliannau posibl i’r dull presennol.

    Cliciwch y ddelwedd isod i weld ein hadroddiad gwerthuso.

    EYPDG image

    Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffech drafod yr adroddiad, cysylltwch ag Andrew Stephens neu Ana Harries neu ffoniwch 029 2090 9500.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad
  • Data Unit Logo

    Darllenwch y dadansoddiad diweddaraf o adroddiad camau allweddol y Fframwaith Gwasanaeth
    Cenedlaethol ar gyfer Plant

    Rydym ni wedi cael ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i goladu, dadansoddi ac adrodd ar ddata’r Offeryn Archwilio Hunanasesu am y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant yng Nghymru.

    Nod yr adroddiad yw asesu’r cynnydd sydd wedi ei wneud yn erbyn camau allweddol y Fframwaith ar gyfer Plant rhwng 2013-14 a 2014-15.

    Mae’r adroddiad ar gael ar ein gwefan.

    Am ragor o wybodaeth am ddata SAAT y Fframwaith cysylltwch â

    SAATenquiries@unedddatacymru.gov.uk


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad
  • Mae’r adroddiad dadansoddi diweddaraf am ariannu’r trydydd sector yng Nghymru ar gael bellach…

    Cawsom ein comisiynu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i gasglu, dadansoddi a llunio adroddiad am arian lleol ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru.

    Nod yr astudiaeth hon oedd cynnig dealltwriaeth fanwl o lefel a chyfansoddiad arian a ddarparwyd gan lywodraeth leol i’r trydydd sector yn ystod 2013-14. Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar ein gwaith blaenorol am ariannu’r trydydd sector, yn fwyaf diweddar yn 2009-10.

    I weld adroddiad 2013-14 cliciwch y ddelwedd isod (Saesneg yn unig).

    Mae’r data am ariannu’r trydydd sector i’w weld yma.


    Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan y Cyngor.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad
  • Data Unit Logo

    Mae perfformiad awdurdodau lleol yn parhau i wella

    Mae data am 2014-15 yn dangos bod perfformiad ALi wedi gwella mewn 63% o ddangosyddion

    Mae adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Mercher Medi 2 yn dangos bod perfformiad wedi gwella mewn 63% o ddangosyddion cymaradwy i’w gymharu a 2013-14. Mae’r bwlch mewn perfformiad (rhwng yr awdurdodau sy’n perfformio orau a’r rhai gwaethaf) wedi’i gulhau mewn dros hanner o’r dangosyddion.

     


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad