• This website is available in English

Newyddion


  • Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • DataCymru

    “Does dim y fath beth â methiant, dim ond profiadau dysgu” – Anon.

    Heddiw rydym wedi lansio ein rhaglen ddigwyddiadau gweminar, sy’n bwriadu hysbysu ac ysbrydoli.

    Yn ein gweminar cyntaf, “Deall gofynion sgiliau’r dyfodol: data ar gyfer y chwyldro gwyrdd”, bydd ein cydweithiwr Dan yn siarad am ei ymchwil mewn perthynas â’r galwadau am sgiliau sy’n debygol o godi gyda thwf cyflym yr economi werdd. Ymunwch â ni i ddysgu mwy am yr ymchwil, y data isorweddol ac archwilio rhai o’r prif ganfyddiadau.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • DataCymru

    Rydym ni wedi cyhoeddi tabl cyfeirio daeryddiaethau i’ch helpu i ddeall pa awdurdod lleol, ward neu fwrdd iechyd lleol mae cod post ynddo. Rydym wedi trefnu bod hwn ar gael o ganlyniad i alw gan ddefnyddwyr a oedd yn dymuno defnyddio’r wybodaeth hon e.e. canolfannau brechu, er mwyn deall pa awdurdod lleol /bwrdd iechyd lleol mae cod post rhywun yn perthyn iddo.

    Mae’r tabl hwn yn cynnwys enwau, disgrifiadau, a chodau adnabod daearyddiaethau ystadegol Cymru, o’r cod post trwodd i’r bwrdd iechyd lleol, a sut maent yn ymwneud â’i gilydd.

    Mae’r data yn cael ei ddiweddaru’n chwarterol yn dilyn cyhoeddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

    Gallwch weld y tabl yn ein hofferynnau DataAgoredCymru ac InfoBaseCymru.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Thriving Places Wales logo

    Mae diweddariad 2021 Llefydd Llewyrchus Cymru ar gael nawr. Mae’r offeryn yn cynnig mesur o lefel bresenoldeb yr amodau sy’n cefnogi llesiant ar draws ardaloedd awdurdodau lleol.

    Mae’r sgoriau’n mesur amodau ar gyfer llesiant ledled Cymru ar lefel ardaloedd awdurdodau lleol. Nid ydynt yn adlewyrchu perfformiad unrhyw sefydliad, na grŵp o sefydliadau, o fewn yr ardaloedd hyn.

    Mae’r offeryn, a ddatblygwyd ar y cyd â’r Ganolfan dros Lefydd Llewyrchus (Saesneg yn unig), yn cynnig fframwaith adrodd cadarn i gefnogi’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau i ddeall llesiant yn eu hardal nhw.

    Seilir yr offeryn ar flynyddoedd lawer o waith datblygu mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr o bob rhan o’r byd, academyddion, ymarferwyr a chymunedau lleol amrywiol. Yr amodau sydd wedi’u cynnwys y fframwaith yw’r rhai y dangoswyd eu bod bwysicaf i unigolion, cymunedau ac ardaloedd ffynnu. Maent yn diffinio llesiant cynaliadwy fel rhywbeth sy’n cynnig cyfleoedd cyfartal i ffynnu i’r genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’r offeryn yn cynnig golwg amgen ar lesiant o’i gymharu â mynegeion sy’n seiliedig ar arian ac amddifadedd.

    Mae dadansoddiad hefyd i gyd-fynd â’r sgoriau a gall defnyddwyr greu cerdyn sgôr pdf am eu hardal awdurdod lleol eu hun.

    Fel ag erioed, os hoffech gael rhagor o gymorth gyda’r data, os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr offeryn neu eisiau cefnogaeth i helpu i’w sefydlu yn eich man gwaith chi, cysylltu â Duncan Mackenzie.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • DataCymru

    Mae CACI wedi cysylltu â ni gyda chynnig i gefnogi awdurdodau lleol Cymru yn yr amseroedd unigryw hyn. Mae CACI yn cynhyrchu amrediad o setiau data masnachol, gan gynnwys Acorn, Household Acorn, Wellbeing Acorn a Vulnerability Indicators, sy’n gallu cael eu defnyddio i ddeall eich cymunedau’n well ar lefel daearyddiaethau bach.

    Mae’r rhain ar gael ar sail fasnachol fel arfer, ond mae CACI bellach yn trefnu bod y data hwn ar gael am ddim i awdurdodau lleol a sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr, i’ch helpu i nodi pobl agored i niwed yn eich cymunedau. Mae’r cynnig hwn yn ymestyn tan ddiwedd mis Chwefror 2021 i ddechrau a bydd yn ymdrin â gwaith sy'n gysylltiedig â COVID yn unig. Fe fydd urhyw gytundeb yn y dyfodol rhyngoch chi a CACI.

    Mae rhagor o wybodaeth am gael gafael ar y data hwn ar gael ar wefan (Saesneg yn unig), CACI, gan gynnwys manylion am sut i gofrestru.

    Sylwch: os ydych chi eisoes yn rhan o’r cytundeb consortiwm presennol sydd gennym ni â CACI, mae’r cynnig hwn yn sefyll ar wahân i’r cytundeb hwnnw ac ni fydd yn cael unrhyw effaith arno.

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â CACI drwy eu gwefan (Saesneg yn unig) neu â Duncan MacKenzie.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Rydym wedi lansio’r datganiad diweddaraf i’n hofferyn Proffilio Lleoedd Cymru.

    Nod yr offeryn yw cefnogi awdurdodau lleol Cymru, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’u partneriaid i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau, deall sut mae lleoedd yn newid dros amser a deall llesiant ar lefel gymunedol yn well. Mae’r offeryn yn cynnwys data am 192 o ddaearyddiaethau Ardal Adeiledig (BUA) gyda poblogaeth Cyfrifiad 2011 o 2,000 neu fwy.

    Yn sgîl lansiad llwyddiannus ein hofferyn yn 2019, rydym wedi parhau i ddiweddaru a datblygu’r offeryn ymhellach, mae’r datganiad diweddaraf yn cynnwys:

    • mapio gorsafoedd trenau a data am gymudwyr;
    • cysylltu’r gwasanaethau iechyd a llesiant lleol â chyfeiriadur Dewis Cymru;
    • ychwanegu data MALlC 2019;
    • gwelliannau i fetadata’r Cyfrifiad; yn ogystal â
    • diweddariadau ymarferol eraill.

    Mae gennym gynlluniau cyffrous yn yr arfaeth ar gyfer yr offeryn, gyda ffocws hirdymor ar ei botensial i gefnogi deall y data sy’n deillio o Gyfrifiad 2021. Yn y cyfamser, byddwn yn chwilio am fewnbwn oddi wrth ddefnyddwyr wrth i ni geisio ychwanegu rhagor o ddata ac estyn ei ymarferoldeb.

    Os oes gennych unrhyw feddyliau neu syniadau, neu os hoffech sgwrsio am yr offeryn, cysylltwch ag Tom.brame @data.cymru.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • IBC Logo

    Mae graddau Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Is Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) a data’r dangosyddion ar gael bellach yn InfoBaseCymru.

    Mae 1,909 o’r Ardaloedd hyn yng Nghymru, ar draws y 22 awdurdod lleol. Maent yn cael eu graddio o’r mwyaf amddifad i’r lleiaf amddifad yn erbyn yr wyth parth amddifadedd (Incwm, Cyflogaeth, Iechyd, Addysg, Mynediad i Wasanaethau, Diogelwch Cymunedol, yr Amgylchedd Ffisegol a Thai) yn ogystal ag am eu hamddifadedd cyffredinol.

    Mae pob parth yn cynnwys nifer o ddangosyddion ac mae data am y dangosyddion ar gael hefyd ochr yn ochr â graddau’r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Is.

    Mae’r data a’r graddau yn ffynhonnell werthfawr gwybodaeth er mwyn i awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus, y sawl sy’n llunio polisi a’r cyhoedd ddeall sut mae amddifadedd yn bodoli ledled Cymru.

    I gyrchu’r data, ewch i InfoBaseCymru.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos codiad o 7% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos codiad o 14% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Rydym wedi lansio’r datganiad diweddaraf i’n hofferyn Proffilio Lleoedd Cymru.

    Nod yr offeryn yw cefnogi awdurdodau lleol Cymru, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’u partneriaid i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau, deall sut mae lleoedd yn newid dros amser a deall llesiant ar lefel gymunedol yn well. Mae’r offeryn yn cynnwys data am 192 o ddaearyddiaethau Ardal Adeiledig yr oedd ganddynt boblogaeth, adeg Cyfrifiad 2011, o 2,000 neu fwy.

    Yn sgîl lansiad llwyddiannus ein hofferyn beta yn gynharach eleni, rydym wedi parhau i dderbyn adborth gwerthfawr sydd wedi ein helpu i ddiweddaru a datblygu’r offeryn ymhellach, gan gynnwys:

    • Ychwanegu data am wasanaethau iechyd a llesiant;
    • Ychwanegu mwy o fapiau ar lefel LSOA i gynnig dadansoddiad am ardaloedd mwy o faint;
    • Y gallu i allforio neu argraffu siartiau at ddibenion adrodd; yn ogystal â
    • Diweddariadau mwy ffwythiannol.

    Mae gennym gynlluniau cyffrous yn yr arfaeth ar gyfer yr offeryn, gyda ffocws hirdymor ar ei botensial i gefnogi deall y data sy’n deillio o Gyfrifiad 2021. Yn y cyfamser, byddwn yn chwilio am fewnbwn oddi wrth ddefnyddwyr wrth i ni geisio ychwanegu rhagor o ddata ac estyn ei ymarferoldeb.

    Os oes gennych unrhyw feddyliau neu syniadau, neu os hoffech sgwrsio am yr offeryn, cysylltwch ag Tom.brame @data.cymru.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor