• This website is available in English

Newyddion

  • Data Unit Logo

    Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod gofyniad ar Fwrdd Gwasanaethau Lleol (PSB) i baratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr llesiant yn ei ardal. Caswom gyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu ‘set ddata cyffredin’ er mwyn gynorthwyo’r gwaith.

    Rydym wedi datblygu’r set ddata gan ddefnyddio’r pedair thema: llesiant cymdeithasol; economaidd; diwylliannol; ac amgylcheddol gan geisio adeiladu ar brofiad asesiadau blaenorol a cyhoeddiad diweddar y set o ddangosyddion cenedlaethol.

    Mae ymgysylltu â chydweithwyr partneriaeth, a chael eu mewnbwn, wedi bod yn rhan allweddol o ddatblygu’r set ddata ac rydym wedi defnyddio rhwydweithiau lleol a rhanbarthol yn ogystal â grwpiau rhwydwaith cenedlaethol sefydledig i ategu hyn.

    Gall y set ddata hon fod yn fan cychwyn i PSBs ledled Cymru ddechrau asesu llesiant yn yr ardal a chynhyrchu’r asesiad. Bydd yn rhan yn unig o’r sylfaen dystiolaeth y bydd PSBs yn dymuno ei defnyddio i ategu eu hasesiadau, sy’n debygol o gynnwys tystiolaeth a gwybodaeth leol hefyd gan gynnwys barn dinasyddion. Nod y set ddata gyffredin hon yw cynyddu cysondeb a lleihau dyblygu gwaith wrth ddatblygu’r asesiadau ledled Cymru. Bwriedir iddi ganiatáu am hoelio mwy o sylw ac adnoddau ar ddadansoddi’r data a chysondeb rhwng partneriaid sy’n cefnogi mwy nag un PSB.

    Mae’r set ddata ar gael nawr yma.

    Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffech drafod sut gall yr Uned Ddata gynnig cefnogaeth bellach, cysylltwch â Chris Perkins neu ffoniwch 029 2090 9500.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • IBC Logo

    Rydym wedi diweddaru’n cynnig ar gyfer data rhaglen mesur plant yn InfoBaseCymru. Erbyn hyn mae gennym ddata am nifer y bechgyn, merched a phlant sy’n ordrwm neu’n ordew. Mae hyn ar gael ar lefel yr awdurdod lleol. Dengys y data fod 26.2% o blant yn Nghymru yn ordrwm neu’n ordew ym MA 2014/15, o’u cymharu ag 26.5% yn 2013/14.

    Os oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y data hwn, cysylltwch â ni yn ymholiadau@unedddatacymru.gov.uk neu 029 2090 9500.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Diweddariadau data
  • IBC Logo

    Rydym wedi diweddaru’n cynigion ar gyfer data Rhaglenni dysgu seiliedig ar waith (Prentisiaethau) yn InfoBaseCymru. Erbyn hyn cadwn ddata ar niferoedd y rhaglenni dysgu seiliedig ar waith fesul sector diwydiant. Mae hyn ar gael ar lefel awdurdodau lleol.

    Os oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y data hwn, cysylltwch â ni yn ymholiadau@unedddatacymru.gov.uk neu 029 2090 9500.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Diweddariadau data
  • Roeddem ni wrth ein bodd i fwy na 100 i gynadleddwyr ddod i’r digwyddiad, gan gynrychioli dros 40 o sefydliadau.

    Mae’r adborth o’r digwyddiad wedi bod yn bositif iawn. Yn ôl dadansoddiad o’r ffurflenni gwerthuso:

    Roedd 100% o’r ymatebwyr yn meddwl bod y cynnwys yn berthnasol

    Roedd 100% o’r ymatebwyr yn meddwl bod y cynnwys yn ddefnyddiol

    Roedd canmoliaeth fawr am ein trefniadau cyn y digwyddiad hefyd, gyda 98% o’r ymatebwyr yn cytuno iddynt dderbyn yr holl fanylion angenrheidiol i’w galluogi i fynychu’r gynhadledd.

    O ran trefniadaeth gyffredinol y digwyddiad, dwedodd 91% o’r ymatebwyr ei bod yn dda iawn.

    Roedd sylwadau’n cynnwys:

    ‘Un o’r cynadleddau gorau, mwyaf defnyddiol dwi wedi eu mynychu ers sbel.’

    ‘Roedd cynnwys y digwyddiad – y siaradwyr/ y cyflwyniadau a’r gweithdai a fynychais o ansawdd uchel, yn berthnasol i’r pwnc ac i’m rôl a chyfrifoldebau i.’

    ‘Roedd amseriad y sesiwn yn berffaith am gyflwyniad y deddfau newydd ac roedd y ffocws ar y materion ymarferol yn werthfawr iawn ac yn union y math o beth dylai’r digwyddiadau hyn ei wneud.’

    Mae fideos o’r prif gyflwyniadau wedi cael eu postio ar-lein hefyd. Mae’r rhain ar gael ar sianel YouTube Uned Ddata Cymru.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: NIE
  • Homepage Welsh image

    Dylai’r dyluniad a’r diwyg newydd ei gwneud yn haws i chi welywio a dod o hyd i’r hyn rydych ei eisiau’n gyflym. Ymhlith y nodweddion newydd sy’n haeddu sylw mae:

    • cynnwys wedi ei ystwytho
    • mynediad uniongyrchol a chyflym i ddata
    • portffolio newydd sy’n arddangos ein gwaith.

    Gobeithiwn eich bod chi’n hoffi’n gwefan newydd. Cysylltwch â ni a rhowch wybod beth yw’ch barn chi!


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • IBC Logo

    Rydym ni’n diweddaru ac yn cynnwys data newydd yn InfoBaseCymru yn rheolaidd ac rydym ni nawr wedi mynd cam ymhellach.

    Rydym wedi diweddaru ei olwg ac addasu diwyg y data er mwyn iddi fod yn haws i chi welywio a dod o hyd i’r data mae arnoch ei eisiau’n gyflym.

    Mae newidiadau eraill yn cynnwys:

    • Trendio – y 5 eitem ddata ac adroddiad mwyaf poblogaidd;
    • Nodweddion – mynediad cyflym i’r dulliau arloesol rydym ni’n defnyddio’r data; a
    • Llithrydd newyddion – ffordd apelgar o amlygu data pynciol.

    Byddwn yn parhau i ychwanegu data newydd wrth iddo ddod ar gael ac i adolygu’r cynnwys yn gyson i wneud yn siŵr ei fod yn bodloni’ch anghenion chi.

    Mae’r gwelliannau yn golygu y bydd rhai o’r dolenni rydych o bosib wedi bod yn eu defnyddio wedi newid. Os oes angen unrhyw help arnoch chi, mae ond angen cysylltu â ni.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Rydym ni wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar am ddata Cynllunio’r Gweithlu Gweithwyr Cymdeithasol 2014-15. Nod yr adroddiad yw cefnogi awdurdodau lleol a Chyngor Gofal Cymru wrth gynllunio am anghenion y gweithlu yn y dyfodol a llywio comisiynu hyfforddiant gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru.

    Dengys yr adroddiad nifer y gweithwyr cymdeithasol sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol a hynny mewn Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant a meysydd eraill. Mae’n edrych hefyd ar dueddiadau’r gweithlu dros amser a throsiant staff a’r gweithlu rhagamcanol dros y tair blynedd nesaf.

    I weld adroddiad 2014-15 cliciwch y ddelwedd isod.

    SWWP image


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • National intellignce Event Data Unit stand
    National intelligence Event Andrew Stephens speaking
    National intelligence Event workshops

    Pedwerydd Digwyddiad Hysbysrwydd Cenedlaethol yn taro’r nod, eto!

    100 o gynadleddwyr a fynychodd ein pedwerydd Digwyddiad Hysbysrwydd Cenedlaethol – ‘Sut mae hi MEWN GWIRIONEDD’ – Deall llesiant – newid mawr yng Nghymru – ddydd Iau 3 Mawrth 2016 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

    Clywodd y cynadleddwyr oddi wrth amrediad o siaradwyr gan gynnwys Christopher Stevens, Pennaeth Cangen Cynllunio a Phartneriaeth a Claire Germain Pennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru.

    Clywsom ni hefyd oddi wrth Dr. Alan Netherwood o Netherwood Sustainable Futures a siaradodd am ei waith gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) ar Raglen Mabwysiadwyr Cynnar Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a gwaith am lywodraethu yn y dyfodol ym Mhrifysgol Caerdydd i archwilio sut y gall anghenion cenedlaethau’r dyfodol gael eu cynrychioli mewn asesiadau llesiant.

    Roedd nifer o sesiynau trafod gyda siaradwyr o Swyddfa Archwilio Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfranogiad Cymru, Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, Dinas a Sir Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

    Russell De’Ath, Cynghorydd Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, ddaeth â’r diwrnod i ben, gan siarad am sut mae Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn rhoi ffocws arbennig i Cyfoeth Naturiol Cymru wrth gyfathrebu risgiau a chyfleoedd mae rheoli adnoddau naturiol yn eu cynnig ar gyfer llesiant dynol, a sut maent yn mynd ati i ddelio â’r her newydd a sut y bydd hyn yn llywio asesiadau o lesiant a chynlluniau llesiant.

    Mae adborth o’r digwyddiad wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yma. Cyflwyniadau a ffilm fideo ar gael yn awr.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: NIE
  • Free Swimming1 Logo

    Nofiodd llai o bobl am ddim rhwng Hydref a Thachwedd 2015!

    Mae’r data nofio am ddim diweddaraf am y cyfnod Hydref - Tachwedd 2015 ar gael bellach. At ei gilydd, mae’r data yn dangos lleihad o 12% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Data Unit Logo

    Mae catalog data sy’n ategu Pecyn Cymorth Asesu’r Boblogaeth AGGC ar gael bellach

    Mae’r Uned Ddata, ar ran yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (AGGC), wedi cyhoeddi catalog data (Saesneg yn unig) fel rhan o’r Pecyn Cymorth Asesu’r Boblogaeth sy’n cael ei ddatblygu i gynorthwyo awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol gyda’u gofynion statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

    Mae’r catalog yn cynnig amrediad o ddata sydd ar gael a allai fod o gymorth wrth ddatblygu eu hasesiadau o’r boblogaeth, gan gydnabod y bydd anghenion yn amrywio rhwng ardaloedd.

    Mae’r catalog wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â phartneriaid mewn awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Cafodd rhanddeiliaid ehangach gyfle i roi adborth ar y catalog data hefyd, ac mae’r adborth hwnnw wedi cael ei gymryd i ystyriaeth.

    Bwriad AGGC yw cyhoeddi’r Pecyn Cymorth erbyn Ebrill 2016.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor