• This website is available in English

Nofio am Ddim yng Nghymru 2015-16

Darllennwch yr adroddiad dadansoddi diweddaraf am ddata Nofio Am Ddim sy’n dangos y tueddiadau yng Nghymru.

Gweithiwn ar y cyd â Chwaraeon Cymru i gasglu, dadansoddi ac adrodd am ddata Nofio am Ddim oddi wrth awdurdodau lleol yng Nghymru.

Nod y gwaith hwn yw gwerthuso effaith y Fenter Nofio am Ddim yng Nghymru drwy ddefnyddio’r data yn effeithiol.

Dyma rai o’r prif bwyntiau o ddata 2015-16:

  • Bu lleihad 26% a 25% mewn cyfranogiad mewn nofio cyhoeddus am ddim yn y drefn honno ymhlith gwrywod a menywod 16 oed ac yn iau, o’i gymharu â 2014-15.
  • Mae’r grŵp oedran 60 ac yn hŷn wedi gweld lleihad o 4% mewn cyfranogiad mewn nofio cyhoeddus am ddim, o’i gymharu â 2014-15.

Dysgwch fwy a gweld sut mae cyfranogiad yn eich awdurdod chi drwy fynd i’n hoffer Nofio am Ddim.

I weld adroddiad 2015-16 cliciwch y ddelwedd isod. Sylwch fod yr adroddiad hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.

Free Swimming

Free Swimming

Postio gan
y Golygydd / the Editor
26/09/2016
Categorïau: Cyhoeddiad