• This website is available in English

Newyddion Diweddaraf InfoBase - Medi

IBC Logo

Yma fe welwch yr holl newyddion am InfoBase gan gynnwys diweddariadau ar y system a’i chynnwys.

Cyfrif Hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith (Awst 2017)

Mae ffigyrau diweddaraf (Awst 2017) cyfrif hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith nawr ar gael yn dilyn diweddariad y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Prisiau tai cyfartalog (Gorffennaf 2017)

Mae’r data ar gyfer Gorffennaf 2017 am brisiau tai cyfartalog ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan y Gofrestrfa Tir yn ddiweddar.

Data Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (PAMs) 2016-17 wedi’u cyhoeddi

Mae data Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (PAMs) ar gyfer 2016-17 wedi cael eu cyhoeddi.

Dylai ymholiadau am y data gael eu hanfon at PIenquiries.

Terfynu set ddata budd-daliadau yn ôl math

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi terfynu ystadegau budd-daliadau yn ôl math ac felly ni fydd y data hwn yn cael ei ddiweddaru bellach.

Byddwn yn ychwanegu rhai dangosyddion budd-daliadau newydd DWP yn ôl awdurdod lleol ac ardal leol cyn bo hir.

Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan NOMIS.

Absenoldeb o’r ysgol: Ysgolion Uwchradd (BA 2016-17)

Mae’r data ar gyfer 2016-17 am absenoldeb o’r ysgol mewn ysgolion uwchradd ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

Data digwyddiadau tân, thanau â phresenoldeb a larymau mwg (2016-17)

Mae’r data ar gyfer 2016-17 am ddigwyddiadau tân, thanau â phresenoldeb a larymau mwg nawr ar gael yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

Postio gan
y Golygydd / the Editor
30/09/2017
Categorïau: Diweddariadau data