• This website is available in English

Digwyddiad Hysbysrwydd Cenedlaethol 2016

National intellignce Event Data Unit stand
National intelligence Event Andrew Stephens speaking
National intelligence Event workshops

Pedwerydd Digwyddiad Hysbysrwydd Cenedlaethol yn taro’r nod, eto!

100 o gynadleddwyr a fynychodd ein pedwerydd Digwyddiad Hysbysrwydd Cenedlaethol – ‘Sut mae hi MEWN GWIRIONEDD’ – Deall llesiant – newid mawr yng Nghymru – ddydd Iau 3 Mawrth 2016 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Clywodd y cynadleddwyr oddi wrth amrediad o siaradwyr gan gynnwys Christopher Stevens, Pennaeth Cangen Cynllunio a Phartneriaeth a Claire Germain Pennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru.

Clywsom ni hefyd oddi wrth Dr. Alan Netherwood o Netherwood Sustainable Futures a siaradodd am ei waith gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) ar Raglen Mabwysiadwyr Cynnar Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a gwaith am lywodraethu yn y dyfodol ym Mhrifysgol Caerdydd i archwilio sut y gall anghenion cenedlaethau’r dyfodol gael eu cynrychioli mewn asesiadau llesiant.

Roedd nifer o sesiynau trafod gyda siaradwyr o Swyddfa Archwilio Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfranogiad Cymru, Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, Dinas a Sir Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Russell De’Ath, Cynghorydd Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, ddaeth â’r diwrnod i ben, gan siarad am sut mae Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn rhoi ffocws arbennig i Cyfoeth Naturiol Cymru wrth gyfathrebu risgiau a chyfleoedd mae rheoli adnoddau naturiol yn eu cynnig ar gyfer llesiant dynol, a sut maent yn mynd ati i ddelio â’r her newydd a sut y bydd hyn yn llywio asesiadau o lesiant a chynlluniau llesiant.

Mae adborth o’r digwyddiad wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yma. Cyflwyniadau a ffilm fideo ar gael yn awr.

Postio gan
y Golygydd / the Editor
23/03/2016
Categorïau: NIE