Priodoli: Mewn gwerthusiadau, mae priodoli yn cyfeirio ar yr actorion a’r ymyriadau sy’n gyfrifol am gynnydd a newid.
Cydgynhyrchu: Mae hon yn ffordd o weithio sy’n mynd ati i gynnwys defnyddwyr gwasanaeth a dinasyddion wrth ddylunio, cynllunio, cyflenwi a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Gweler Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Gwrth-ffeithiol: Mae’r gwrth-ffeithiol yn gofyn “beth fyddai wedi digwydd o hyd” neu “beth fyddai wedi digwydd beth bynnag” i grwpiau, cymunedau neu unigolion os nad oedd y rhaglen, polisi neu ymyrraeth sy’n cael ei gwerthuso ar waith. Mae’n cefnogi ymagwedd Theori Newid at werthuso.
Astudiaethau/gwerthusiadau empirig:Mae’r astudiaethau hyn yn defnyddio dulliau ac arbrofion gwyddonol i ddeall effaith ymyriad neu raglen, gan gynnwys Hap-brofion Wedi’u Rheoli a Lled-arbrofion.
Dulliau ymchwil cymusg: Mae hyn yn nodweddiadol yn golygu defnyddio dulliau ymchwil sy’n gadael i ddata ansoddol a meintiol gael ei gasglu.
Data sylfaenol: Data sylfaenol yw’r ymchwil a’r dystiolaeth sy’n cael eu casglu’n benodol ar gyfer yr astudiaeth neu’r ymchwil bresennol. Mae’n gallu bod yn ansoddol neu’n feintiol ac yn cynnwys: arolygon; grwpiau ffocws; cyfweliadau; a dulliau arbrofol a chreadigol – mae llawer o opsiynau. Mae’r mathau hyn o ddata yn cefnogi pob math o werthusiad. Mae data sylfaenol yn cefnogi pob math o werthusiad, yn arbennig pan nad oes unrhyw ddata (eilaidd) a oedd yn rhag-fodoli ar gael i ddangos newid, effaith a chynnydd. Wrth werthuso effeithiau, lle mae angen cyfleu newid hir a chymhleth, mae data sylfaenol yn gallu bod yn ddull effeithiol o ddangos newid annisgwyl sy’n dod i’r amlwg.
Data ansoddol: Mae data ansoddol yn disgrifio yn hytrach nag yn mesur. Yn nodweddiadol, mae’n disgrifio ansawdd rhywbeth, neu brofiad neu ganfyddiad unigolion a grwpiau o rywbeth. Yn nodweddiadol, caiff geiriau, delweddau, a dulliau creadigol eu defnyddio i gyfleu canfyddiadau.
Data meintiol: Data meintiol yw unrhyw ddata a all gael ei fesur yn rhifiadol. Gall fesur pobl (er enghraifft, nifer y bobl mewn un ardal), pethau, nodweddion (e.e. nifer y bobl sy’n hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith, tymheredd rhywbeth), a phrofiad (nifer y bobl a raddiodd wasanaeth yn uchel). Caiff rhifau eu defnyddio i gyfleu canfyddiadau.
Lled-Arbrofion: Mae Lled-Arbrofion yn ddull procsi o bennu’r gwrth-ffeithiol, sef “beth fyddai wedi digwydd beth bynnag” heb fodolaeth y rhaglen neu’r ymyrraeth dan sylw. Yn aml, mae modd manteisio ar ddata gweinyddol a data sy’n bodoli’n barod i weld y gwahaniaeth mae rhaglen wedi’i wneud mewn poblogaeth neu grŵp lle mae rhaglen wedi’i threialu o’u cymharu â phoblogaeth neu grŵp heb yr ymyrraeth. Lle nad yw’n bosibl cynnal Hap-dreialon wedi’u Rheoli, mae Lled-Arbrofion yn cael eu defnyddio’n aml.
Hap-brofion wedi’u Rheoli: Mae Hap-dreialon wedi’u Rheoli yn ymagwedd empirig ac arbrofol at brofi effeithiolrwydd neu effaith ymyrraeth neu raglen. Mae pobl â nodweddion tebyg yn cael eu haseinio ar hap i grŵp ymyrraeth neu grŵp heb yr ymyrraeth. Mae’r ddau grŵp yn cael eu hasesu er mwyn pennu effaith rhaglen neu ymyrraeth ar y grŵp ymyrraeth o’u cymharu â’r grŵp heb yr ymyrraeth. Mae hyn yn cael ei dderbyn yn eang fel dull cwbl ddibynadwy o sefydlu’r gwrth-ffeithiol, sy’n cyfleu beth fyddai wedi digwydd heb ymyrraeth neu raglen ar waith.
Data eilaidd: Data eilaidd yw unrhyw wybodaeth a oedd yn bodoli’n barod y cewch ei defnyddio i’ch helpu i ateb cwestiynau. Mae’n gallu cynnwys: data gweinyddol, monitro rhaglenni, ffigurau a chofrestri presenoldeb, ystadegau swyddogol, adroddiadau rhaglenni ac ati. Gall y mathau hyn o ddata fod yn ddefnyddiol mewn unrhyw fath o werthusiad, ond yn arbennig gwerthusiadau economaidd, canlyniadau a phrosesau y mae angen iddynt ddefnyddio gwybodaeth sy’n bodoli’n barod yn aml i roi tystiolaeth o arian sydd wedi cael ei arbed, allbynnau gwell a chanlyniadau gwell
Astudiaethau/gwerthusiadau ar sail theori: Caiff y dyluniadau hyn eu defnyddio i asesu’n ansoddol sut mae rhaglen neu ymyriad wedi dylanwadu ar ganlyniadau ac effeithiau. Mae’n asesu i ba raddau mae rhaglen wedi dylanwadu ar ganlyniadau ac yn edrych ar y rhesymau am hyn, gan gyfeirio ato fel arfer at Theori Newid.