Mae Llefydd Llewyrchus Cymru wedi’i seilio ar Fynegai The Centre for Thriving Places', sef y ‘Thriving Places Index’, sy’n torri tir newydd ac sy’n mesur pa mor dda mae ardaloedd yn tyfu’r amodau ar gyfer llesiant cyfartal a chynaliadwy.
Mae wedi’i lunio i ddarparu fframwaith adrodd cadarn i gefnogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn ardaloedd lleol i wella bywydau ar lawr gwlad a helpu symud y ffocws, le wrth le, tuag at fesur yr hyn sy’n bwysig.
Mae Llefydd Llewyrchus Cymru yn defnyddio ystod eang o 52 o fesurau sy'n adlewyrchu'r ddealltwriaeth gynyddol bod llesiant yn gysyniad aml-ddimensiwn, sy'n cael ei bennu gan lawer o ffactorau amrywiol. Mae'r ffactorau hyn yn tueddu i gael eu cysylltu'n achosol â'i gilydd er mwyn creu 'gwe' o amodau sy'n effeithio ar lesiant pobl.
Ewch