• This website is available in English

Datblygiadau yn Data Cymru: Data agored, ymchwil gymdeithasol a gwyddor data

Blog

Mae’r wythnos hon yn gweld cyhoeddi tair tudalen we newydd, sy’n canolbwyntio ar data agored, ymchwil gymdeithasol a gwyddor data. Nod y tudalennau gwe hyn yw eich cyflwyno i’r pwnc, esbonio ein gweledigaeth am weithredu ledled sector cyhoeddus Cymru, a disgrifio’r hyn rydym yn bwriadu ei wneud i helpu i wireddu’r weledigaeth honno. Hefyd cynhwyswn rai adnoddau defnyddiol am ddarllen pellach, fel dolenni â blogiau, astudiaethau achos, a chanllawiau defnyddwyr perthnasol ochr yn ochr â gwybodaeth am ddigwyddiadau yn y dyfodol ac unrhyw newyddion eraill a allai fod o ddiddordeb. Felly, cadwch lygad allan amdanyn nhw!

Yma rydym yn esbonio pam rydym wedi dewis canolbwyntio ar y pynciau hyn, yn amlygu rhywfaint o’n gwaith hyd yma, ac yn nodi’r hyn y gallwch chi ddisgwyl ei weld yn y dyfodol agos.

Data agored

Fel sefydliad rydym wedi hybu manteision cyhoeddi data yn agored am beth amser. Ein man cychwyn oedd gwneud y data rydym ni’n ei gyhoeddi yn agored (lle bo’n briodol) ac yna dechreuom ni edrych ar sut allem helpu i sefydlu’r cysyniad ledled y sector cyhoeddus.

Blog

Hyd yma, mae ein hymdrechion wedi canolbwyntio ar ymgysylltu â’n cydweithwyr yn y sector cyhoeddus trwy gyfres o ddigwyddiadau a gweithdai rydym wedi eu cynnal, ar ein pen ein hunain a chyda’n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain wedi ein helpu i ddeall yr heriau mae cyhoeddwyr data yn eu hwynebu a sut allem ni, ochr yn ochr â’n partneriaid, helpu i’w goresgyn. Hefyd maent wedi helpu i lywio’n gweledigaeth a’n cynllun gweithredu am yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Ac yna trawodd COVID-19 …

Mae pwysigrwydd data wedi dod yn amlwg iawn yn ystod y misoedd diwethaf - mae’r angen am ddata dibynadwy cyflym a hawdd ei gyrchu wedi bod yn sail i ymateb y Llywodraeth yng Nghymru (yn genedlaethol ac yn lleol) i’r pandemig. Rydym wedi gweld llawer o sefydliadau ac unigolion (gan gynnwys ni ein hunain) yn addasu data maent yn ei gyhoeddi at ddiben newydd er mwyn helpu’r sawl sy’n llunio polisi a’r cyhoedd i ddeall y sefyllfa sy’n newid yn gyson. Dyma ddata agored ar waith. Mae’n hanfodol ein bod yn adeiladu ar yr archwaeth hon am wybodaeth agored a hygyrch, a’r ffaith ei fod yn cael ei werthfawrogi. Felly, beth allwch chi ddisgwyl ei weld oddi wrthym ni yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf?

Rydym wrthi’n cwblhau ein porth data agored cenedlaethol yn derfynol - adnodd ‘siop-un-stop’ am ddata agored y sector cyhoeddus yng Nghymru. Y bwriad yw i’r porth fod yn llwyfan i gyrff sector cyhoeddus gael cyhoeddi eu data agored. Hefyd bydd yn dod â data agored ynghyd sydd eisoes yn cael ei gyhoeddi mewn mannau eraill. Yn wreiddiol roeddem wedi bwriadu cyhoeddi’r porth yn gynharach yn y flwyddyn, ond fel y bydd llawer ohonoch yn deall, gorfododd yr amgylchiadau i ni flaenoriaethu’r cymorth a roesom i lywodraeth genedlaethol a lleol yn eu hymateb i’r pandemig. Ein nod bellach yw cyhoeddi fersiwn gyntaf yr offeryn yr haf yma. Cadwch lygad allan am newyddion ynglŷn â’i lansiad!

Yn rhan o’i gyflwyniad, byddwn ni unwaith eto yn cydgysylltu â’n cydweithwyr, yn enwedig aelodau’r Rhith-rwydwaith Data Agored (gweler y wefan am fwy o fanylion). Byddwn yn ailddechrau’r trafodaethau am ba ddata y gallai ac y dylai awdurdodau ei gyhoeddi’n agored. Hefyd rydym yn awyddus i weithio’n uniongyrchol gydag awdurdodau lleol unigol i helpu i gic-gychwyn eu diwylliant data agored. Rydym yn obeithiol hefyd y byddwn yn cyhoeddi rhywfaint o’n data ein hunain. Wedi’r cyfan, mae’n rhaid i ni ddilyn ein pregeth ein hun!

Ymchwil gymdeithasol a gwyddor data

Blog

Mae gwyddor data ac ymchwil gymdeithasol yn feysydd cymharol newydd i ni yn Data Cymru. Fodd bynnag, rydym wedi teithio cryn bellter mewn cyfnod byr. Rydym wedi recriwtio staff hynod fedrus, datblygu strategaethau mewnol, a phrofi pa mor effeithiol mae’r dulliau dadansoddol hyn yn gallu bod.

Yn yr un modd â’n hymagwedd at ddata agored, rydym wedi gweithio’n agos iawn gyda’n partneriaid lleol i feithrin ein sgiliau a’n henw da ym maes ymchwil gymdeithasol, gan ysgwyddo gwaith masnachol fel y bo’n briodol. I helpu i ymgorffori ymchwil gymdeithasol o fewn ein pecyn cymorth dadansoddol ni a’n partneriaid, rydym yn cyfrannu at nifer o baneli a fforymau. Yn ogystal, mewn ysbryd tebyg i drefnu bod data yn agored ac ar gael, rydym wedi ymrwymo i rannu gwybodaeth newydd ac wedi cyhoeddi arweiniad ar sut i ymgymryd â gwaith gwerthuso. Rydym wedi datblygu gwybodaeth benodol am greu a gwerthuso modelau rhesymeg a modelau theori newid, yn ogystal â chryfhau gwybodaeth bresennol am ddadansoddi data ansoddol, o grwpiau ffocws i gyfweliadau i ddadansoddi testunau.

Blog

Rydym yn cydnabod grym technegau gwyddor data yn ogystal i hybu mewnwelediad dadansoddol, ystwytho prosesau rheoli, a chyflwyno technoleg newydd i’n seilwaith dadansoddol. Buom yn llwyddiannus iawn wrth ddefnyddio technegau gwyddor data i wella prosesau rheoli data mewnol ac, wedi profi’r cysyniad, yn barod i gymhwyso’r gwersi hyn yn ehangach. Gan hynny, rydym yn diweddaru sgiliau ein staff yn ieithoedd R a Python, yn ogystal ag edrych ar ddulliau o wneud defnydd gwell ar dechnolegau cyflenwol, fel Azure DevOps.

Yn ein barn ni mae twf arferion data agored a chryfhau ein sgiliau gwyddor data ac ymchwil gymdeithasol yn feysydd twf cyffrous i Data Cymru ac i’n partneriaid. Mae’r dulliau newydd hyn yn caniatáu i ni gynnig dadansoddiad dyfnach, o ystod ehangach o ffynonellau data (agored), yn gyflymach ac yn fwy effeithlon nag erioed o’r blaen. Ar adeg galw cynyddol am fewnwelediad dadansoddol, mae hynny ond yn gallu bod yn beth positif. Cadwch lygad allan!

 

Ynglŷn â’r awduron

Sam Sullivan

Sam sy’n arwain ein gwaith ystadegau ac ymchwil, gyda chyfrifoldeb cyffredinol dros ein holl waith lledaenu, arolygu a dadansoddi data. Yn ogystal, mae Sam yn rhan o’n huwch dîm rheoli.

Cyswllt

029 2090 9581

Sam.Sullivan@data.cymru

Suzanne Draper

Suzanne yw’n harweinydd strategol am gasglu a llywodraethu data, gyda chyfrifoldeb cyffredinol dros lywodraethu data a’n holl waith casglu data, rheoli perfformiad a meincnodi.

Cyswllt

029 2090 9516

Suzanne.Draper@data.cymru

Postio gan
y Golygydd / the Editor
29/07/2020