• This website is available in English

Bydd Data Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn cynnal gweithdy ar ‘‘Gwerthuso gwasanaethau rheng flaen – BETH SY'N GWEITHIO?’ddydd Mercher 12 Chwefror 2020 yn Nhŷ Llywodraeth Leol, Rhodfa Drake, Caerdydd, CF10 4LG am 10:00 – 14:00. (Cinio am 13:00)

Beth fydd dan sylw?

Os ydych chi’n ymwneud â chomisiynu neu gyflenwi gwasanaethau sector cyhoeddus neu wirfoddol, byddwch yn fwy na thebyg eisoes yn deall pwysigrwydd:

  • Deall effeithiolrwydd eich gwasanaethau.
  • Gwella sut mae gwasanaethau’n cael eu gwerthuso.
  • Sicrhau dealltwriaeth well o effaith gwasanaethau ar gymunedau a llesiant.

Os ydych:

  • Yn wynebu heriau wrth gynnal gwerthuso effeithiol naill ai fel comisiynydd neu rywun sy’n cyflenwi gwasanaethau.
  • Yn gallu rhannu profiadau, da neu ddrwg, a allai ein helpu i ddeall yn well sut i gynnal gwerthuso effeithiol mewn amgylcheddau gwaith sy’n wynebu heriau a blaenoriaethau lluosog.
  • Yn awyddus i wneud gwahaniaeth.

Yna:

  • Efallai y bydd diddordeb gennych mewn dod yn rhan o drafodaeth ‘Cymuned Ymholi (Saseneg yn unig)’ rhwng y sector gwirfoddol a chyhoeddus sy’n archwilio ac yn ymdrin â sut i asesu a mesur effeithiolrwydd gwasanaethau yn realistig, ac effaith gwasanaethau ar gymunedau a llesiant.

Pam dylech chi fynychu?

Dylech chi fynychu os ydych:

  • Yn ymwneud â chomisiynu neu gyflenwi gwasanaethau sector gwirfoddol neu gyhoeddus.
  • Yn ymwneud â gwerthuso gwasanaethau sy’n cael eu comisiynu.
  • Â rhywbeth i’w ddweud neu ddysgu am y pethau hyn.

Cofrestru

Cofrestrwch eich lle nawr drwy lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein isod. Mae lleoedd yn y digwyddiad yn gyfyngedig, felly cofrestrwch yn gynnar i osgoi siom. Y dyddiad cau am gofrestru yw 31 Ionawr 2020.

Yn gweithio yn y sector cyhoeddus?  – cofrestrwch yma

Yn gweithio yn y sector gwirfoddol? – cofrestrwch yma

Cysylltwch â Leanne Teichner ar 029 2090 9500 / Leanne.Teichner@data.cymru neu Mair Rigby ar 029 2043 1761 / mrigby@wcva.cymru os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y digwyddiad hwn.