• This website is available in English

Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol – O syniad i realiti mewn chwe mis

Equalities dashboard

Mae deall safbwyntiau preswylwyr yn hanfodol ar gyfer llywodraethu effeithiol. Mae arolygon preswylwyr yn ffordd bwysig o gasglu’r adborth hwn. Fodd bynnag, cyn y prosiect hwn, roedd pob arolwg preswylwyr a gynhaliwyd yng Nghymru yn unigryw, a’i gwnaeth yn anodd cymharu canlyniadau o un cyngor i’r llall. Gwelsom gyfle i wella cysondeb a chymaradwyedd yr arolygon hyn trwy fabwysiadu dull ‘Unwaith i Gymru’.

Mewn cydweithrediad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynghorau lleol, datblygom arolwg preswylwyr cyson, modwlaidd, dwyieithog, a fyddai’n cael ei gynnig i bob cyngor lleol yng Nghymru. Nodau penodol y prosiect oedd:

  • Lleihau costau datblygu a chynnal trwy safoni a chanoli;
  • Gwella ansawdd a chymaradwyedd data trwy safoni;
  • Cynnig dirnadaeth ddefnyddiadwy trwy ddangosfwrdd canlyniadau; a
  • Hyrwyddo sgyrsiau am wella trwy gymharu a meincnodi.

Lansiom yr Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol yng Ngorffennaf 2024, dim ond chwe mis  ar ôl y trafodaethau cyntaf. Yn y cyfnod hwn, gwnaethom ni ddatblygu’r arolwg cenedlaethol, cymeradwyo’r dulliau o ddiogelu a rhannu data, a chreu dangosfwrdd lledaenu.

Darllenwch ragor i ddysgu am y llwyddiannau, yr heriau, a beth sy’n dod nesaf.

Postio gan
y Golygydd / the Editor
17/10/2024