• This website is available in English

Newyddion Diweddaraf InfoBase - Gorffennaf

IBC Logo

Yma fe welwch yr holl newyddion InfoBase gan gynnwys diweddariadau ar y system a’i chynnwys.

Cyfrif hawlwyr (Mehefin 2024)

Mae’r data am Mehefin 2024 ar nifer y bobl o oedran gweithio sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

Statws cyflogaeth – anweithgarwch economaidd ac eithrio myfyrwyr (datganiad Gorffennaf 2024)

Mae’r amcangyfrifon diweddaraf (Ebrill 2023 – Mawrth 2024) o statws cyflogaeth ar gyfer anweithgarwch economaidd ac eithrio myfyrwyr nawr ar gael yn dilyn diweddariad diweddar yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol.

Bydd y diweddariad nesaf ar gael ym mis Hydref 2024.

Data troseddau a gofnodir gan yr Heddlu (2023-24)

Mae data troseddau a gofnodir gan yr Heddlu ar gyfer 2023-24 ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan y Swyddfa Gartref.

Statws cyflogaeth (datganiad Gorffennaf 2024)

Mae’r amcangyfrifon diweddaraf (Ebrill 2023 – Mawrth 2024) o statws cyflogaeth nawr ar gael yn dilyn diweddariad diweddar yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol.

Bydd y diweddariad nesaf ar gael ym mis Hydref 2024.

Statws cyflogaeth – pobl ifanc mewn gwaith (2023-24)

Mae amcangyfrifon statws cyflogaeth 2023-24 ar gyfer pobl ifanc mewn gwaith am 2022-23 bellach ar gael yn dilyn diweddariad diweddar yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol.

Statws cyflogaeth – pobl hŷn mewn gwaith (2023-24)

Mae’r amcangyfrifon diweddaraf o statws cyflogaeth ar gyfer pobl hŷn mewn gwaith am 2023-24 nawr ar gael yn dilyn diweddariad diweddar yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol.

Prisiau tai cyfartalog (Mai 2024)

Mae’r data ar gyfer Mai 2024 am brisiau tai cyfartalog ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan y Gofrestrfa Tir yn ddiweddar.

Cyfrif hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith (Mehefin 2024)

Mae ffigyrau diweddaraf (Mehefin 2024) cyfrif hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith nawr ar gael yn dilyn diweddariad y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ydych chi’n gwybod faint o bobl sy’n byw yn eich awdurdod chi?

Cyhoeddedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol amcangyfrifon poblogaeth canol y flwyddyn 2023 ar 15 Gorffennaf 2024.

Mae’r amcangyfrifon ar gael ar lefel blwyddyn oedran unigol ac awdurdod lleol. Rydym ni wedi eu cynnwys yma fel bandiau oedran eang i’w gwneud yn haws eu defnyddio.

Cysylltwch â ni os oes arnoch chi angen ddata am fandiau oedran gwahanol.

Postio gan
y Golygydd / the Editor
31/07/2024
Categorïau: Diweddariadau data