• This website is available in English

Cyflwyniad i: Gwerthuso – ydych chi’n cael effaith?

Evaluation

Ydych chi’n deall y gwahaniaeth rydych yn ei wneud? Ydych chi’n gwybod beth sy’n gweithio? Allwch chi ddangos effaith eich strategaethau, polisïau neu ymyriadau?

Os yw’r cwestiynau hyn yn swnio’n gyfarwydd, yna mae’n debyg y byddwch am ymgymryd â gwerthuso i roi’r atebion i chi. I gefnogi’r sawl sy’n ymgymryd â gwerthuso, rydym wedi lansio Canllaw i Werthuso. Mae’r canllaw, a gafodd ei ddatblygu gyda chefnogaeth partneriaid cenedlaethol, yn gyflwyniad i werthuso ac yn disgrifio’r camau a’r ffactorau allweddol mae angen eu cymryd i ystyriaeth wrth gynllunio gwerthusiad.

Nid yw’r canllaw yn ceisio bod yn ffynhonnell ddiffiniadol gwybodaeth am werthuso. Ei nod yw trafod y cysyniadau a’r derminoleg allweddol, gan gynnwys mathau o werthuso, sylfeini tystiolaeth ac opsiynau o ran mesur. Mae’n bwriadu cyfleu’r camau angenrheidiol mae eu hangen ar gyfer gwerthusiad effeithiol a chymesur. Hefyd mae’n eich cyfeirio at arweiniad a chymorth pellach. Ein bwriad yw datblygu’r canllaw ymhellach wrth i’r sector cyhoeddus esblygu wrth ddeall a defnyddio gwerthuso.

Yn ogystal â’r canllaw, gallwn helpu partneriaid gyda’u gwerthusiadau, boed eich helpu i gynllunio’ch gwaith gwerthuso neu eich helpu gyda’ch gweithgarwch manwl.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am sut allwn eich cefnogi chi, cysylltwch â ni. Rydym yma i helpu!

Postio gan
y Golygydd / the Editor
15/02/2019