
Uwch Ystadegydd - Dros dro Gradd 5 (£44,215 - £53,225 codiad cyflog ar yr arfaeth)
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd a'r fframwaith cymwyseddau.
Manyldeb y person
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n mwynhau gweithio’n gydweithredol i fynd i’r afael â heriau pwysig ym maes ystadegau a data ar draws llywodraeth leol yng Nghymru.
Bydd gennych brofiad o gynnal ymchwil ac o gymhwyso dadansoddiadau ystadegol yn effeithiol, naill ai mewn sefyllfaoedd go iawn neu fel rhan o’ch astudiaethau academaidd. Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol, byddwch yn gallu cyfathrebu gwybodaeth yn effeithiol i ystod o gynulleidfaoedd, er enghraifft, i esbonio canfyddiadau ymchwil ac i yrru ymgysylltiad â phrosiectau yn y dyfodol. Byddwch yn dod â meddylfryd 'gallu gwneud', gan nodi cyfleoedd i wella a pherswadio eraill i fynd ar y daith ddatblygu gyda chi.
Yr hyn y gallwn ei gynnig
Rydym yn sefydliad sy’n gwerthfawrogi dysgu gydag ymrwymiad i ddysgu a datblygu. Rydym yn gwerthfawrogi ein pobl – ac mae hynny’n amlwg. Yn ychwanegol at ganiatâd hael o wyliau blynyddol, rydym yn gweithredu cynllun gwaith hyblyg sy’n rhoi’r cyfle i weithwyr fod yn hyblyg ynghylch eu gwaith, gan sicrhau bod anghenion y busnes a’n cwsmeriaid yn cael eu diwallu. Mae hyn yn cynnwys gweithio hybrid (o gartref neu o leoliadau eraill).
Rydym hefyd yn cynnig nifer o gynlluniau i gefnogi ein gweithwyr, gan gynnwys:
- Cynllun cymorth gweithwyr am ddim (gan gynnwys mynediad at gyngor ac arweiniad megis cwnsela).
- Cynllun gofal iechyd preifat sylfaenol (gyda’r opsiwn i brynu gorchudd ychwanegol i unigolion neu aelodau’r teulu).
- Cynllun llogi cerbyd trydanol (drwy aberthu cyflog).
- Benthyciad tocyn tymor teithio.
- Cynllun 'beicio i'r gwaith' (drwy aberthu cyflog).
- Yr opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol.
Yr hyn a ddisgwn gennych chi
Gyda hyblygrwydd daw cyfrifoldeb. Rydym yn disgwyl i'n staff fod yn hunan-gymhellol ac yn ymrwymedig i'n gwaith.
Sut rydym yn recriwtio
Mae gennym ddiddordeb mawr ynoch chi fel unigolyn a'r hyn y byddwch chi'n ei ddod i'n sefydliad. Rydym am gael y gorau gennych chi ar y cam ymgeisio ac mae ein proses wedi'i chynllunio i'ch helpu i ddangos eich cryfderau. Mae dau gam i’r broses asesu:
- Sifft o geisiadau (CV + llythyr eglurhaol)
- Os byddwch yn pasio’r sifft, digwyddiad asesu.
Os hoffech wneud cais am y rôl hon, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol (dim hirach na 2 dudalen A4) at Jodie Phillips (jodie.phillips@data.cymru). Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw hanner dydd ar 30 Ebrill 2025.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni fydd ceisiadau sy’n dod i law yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Os byddwch yn llwyddiannus yn y sifftio, cewch eich gwahodd i'n digwyddiad asesu. Mae ein digwyddiad asesu yn mynd y tu hwnt i gyfweliad traddodiadol, gan roi cyfle i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau mewn ystod realistig o senarios – ac i chi ddod i'n hadnabod ni hefyd!
Rydym yn sylweddoli nad yw llawer o ymgeiswyr posib yn gwneud cais oni bai eu bod yn bodloni’r holl feini prawf. Rydym eisiau deall eich sgiliau, galluoedd a phrofiadau. Efallai eich bod yn bodloni’r meini prawf heb sylweddoli. Os ydych yn ansicr, rydym yn eich annog i wneud cais a pheidio â chymryd eich hun allan o'r cyfle.
Yn olaf, rydym eisiau i chi ddangos eich potensial llawn ac rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau person-ganolog i'r broses recriwtio y gallai fod eu hangen arnoch.
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd a'r fframwaith cymwyseddau.