• This website is available in English

Cyfleu eich pwynt: Cyflwyniad i gyflwyno data yn effeithiol

Nod

I'ch cyflwyno chi i rai awgrymiadau, offer ac adnoddau i’ch helpu i gyflwyno data’n effeithiol – mewn tablau, siartiau, mapiau neu destun.

Mae’r cwrs yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac mae wedi ei anelu at gynulleidfa ddechreuwr. Ni thybir na bod unrhyw wybodaeth flaenorol am ddata neu ystadegau yn ofynnol.

Cynnwys

Rydym yn cael ein bwrw gan ddata bob dydd; ar y teledu, ein ffonau clyfar, cyfrifiaduron, ar y radio, mewn papurau newydd, ar hysbysfyrddau, posteri, ac arwyddion, o’r cyfryngau, sylwebwyr, ein cydweithwyr a’n ffrindiau.

Er mwyn sicrhau bod eich negeseuon yn hawdd eu deall ac yn denu sylw, rhaid i chi eu cyflwyno'n glir ac yn gywir. Mae ein cwrs hyfforddiant yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i’ch helpu i gyflwyno’ch data chi’n effeithiol, ac i wneud yn siŵr bod eich cynulleidfa’n deall y negeseuon arfaethedig yn gyflym ac yn rhwydd.

Canlyniadau

Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn deall:

  • yr egwyddorion sy’n sail i gyflwyniad data da
  • y dulliau mwyaf cyffredin o gyflwyno data – y da a’r drwg
  • sut mae cyflwyno data i wahanol gynulleidfaoedd i greu’r effaith fwyaf.
Image Lawrlwythwch ein canllaw cyflwyno data am ddim
A byddai 100% o fynychwyr yn argymell yr hyfforddiant hwn i gydweithiwr

“Esboniadau cynhwysfawr ac yn ddefnyddiol i esbonio'r offer / siartiau gorau i'w defnyddio yn ôl y data sydd gennych.”
Mynychwyr y cwrs

Diddordeb gennych?

I gadw lle ar y cwrs hwn ewch i TicketSource (Saesneg yn unig) i weld y dyddiadau a’r amserau sydd ar gael.

Gallwn hefyd ddarparu cyrsiau hyfforddi yn benodol ar gyfer eich sefydliad. Fel arfer, rydym yn cyfyngu rhifau i 15 ond gallwn ddarparu hyfforddiant ar adeg a dyddiad sy'n addas i chi am hyd at 20 o gynrychiolwyr. Y gost yw:

  • Tu allan i lywodraeth leol - £750 a TAW
  • Awdurdodau lleol Cymru - £600 a TAW

Angen mwy o wybodaeth?

Image

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, cysylltwch â Róisín Roberts. Róisín yw ein swyddog Mewnwelediad ac Ymgysylltu Data. Mae hi'n cefnogi ein gwaith ymgysylltu a gwella. Mae hi hefyd yn arwain ein rhaglen waith meithrin gallu.

029 2090 9599

Roisin.Roberts@data.cymru