• This website is available in English
 

Ein gwaith data

Chwaraewn rôl ganolog mewn sicrhau bod data yn bodloni anghenion ein cynulleidfa ‘graidd’ drwy gynrychioli barn llywodraeth leol yng Nghymru ar faterion fel y Cyfrifiad, a data am y boblogaeth a mudo. Hefyd cadwn gyfoeth o ddata ar gael mewn mapiau, tablau ac adroddiadau yn ein system genedlaethol InfoBaseCymru. I weld y data sydd gennym yn InfoBaseCymru, defnyddiwch y ddewislen ar y dde. Hefyd gallwch chi weld rhywfaint o’n data mwyaf poblogaidd drwy ddefnyddio’r dolenni isod.

Meincnodi

Yn ogystal â’r data cenedlaethol sydd ar gael yn ein system InfoBaseCymru, cefnogwn lywodraeth leol a’i phartneriaid i gasglu data arall. Gallwn gefnogi’ch corff chi gyda’i anghenion casglu data. Gweithiwn ar draws gwasanaethau awdurdodau lleol yn barod i roi cymorth am weithgarwch meincnodi. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys darparu ffurflenni casglu, rheoli’r gweithgarwch casglu a darparu data mewn fformatau deallus defnyddiadwy. Rhowch gefnogaeth ar draws y mwyafrif o wasanaethau sy’n gweithredu mewn awdurdodau lleol.

Arolygon

Gallwn ddarparu cymorth hefyd am gasglu gwybodaeth ansoddol drwy arolygon a holiaduron. Unwaith eto, mae’r cymorth y gallwn ei roi cyn amrywio ar sail anghenion yr unigolyn. Gallwn helpu i ddatblydu a phrofi cwestiynau, yn ogystal â chynnig gwasanaeth arolygon ar-lein sy’n defnyddio meddalwedd cwbl ddwyieithog. Gallwn ddadansoddi canlyniadau’r arolwg hefyd.

Cysylltwch â ni i drafod sut allwn ni gefnogi’ch anghenion data chi.

Data

Dewch o hyd i wybodaeth am amddifadedd eich ardal, data am dai, trosedd a chyfansoddiad eich poblogaeth.

Gweld y data

Dewch o hyd i wybodaeth am iechyd plant yn eich ardal, yn ogystal â data am sut maent yn perfformio yn yr ysgol. Hefyd gallwch chi weld data am beth mae pobl ifanc yn ei wneud ar ôl cyrraedd diwedd eu haddysg orfodol.

Gweld y data

Dewch o hyd i wybodaeth am faint a mathau’r busnesau yn yr ardal, lefel enillion, a gweithgarwch economaidd y boblogaeth oedran gweithio. Hefyd gallwch chi weld data am y Lwfans Ceisio Gwaith a mathau eraill o fudd-dal.

Gweld y data

Dewch o hyd i wybodaeth am dull o fyw eich poblogaeth, y sawl sy’n defnyddio gwasanaethau meddygol, a’r sawl sy’n dioddef anghylderau meddygol sydd i gyd yn cael eu cymryd o Arolwg Iechyd Cymru. Hefyd gallwch chi weld data am ddarpariaeth gofal cymdeithasol yn eich ardal, yn ogystal ag iechyd plant o feichiogi a gwybodaeth ddefnyddiol arall am iechyd.

Gweld y data

Dewch o hyd i wybodaeth am yr amgylchedd ffisegol, allyriannau CO2, maint traffig, defnydd ynni a risg llifogydd. Hefyd gallwch chi weld data am ansawdd y rhwydwaith ffyrdd ac anafusion ar y ffordd.

Gweld y data

Dewch o hyd i wybodaeth o Gyfrifiad 2021 am gyfansoddiad y boblogaeth, sy’n amrywio o sgiliau Cymraeg, neu sut mae pobl yn teithio i’r gwaith i’w statws priodasol.

Gweld y data

Mae’n ofynnol i gynghorau lleol ledled Cymru adrodd ar nifer o Ddangosyddion Perfformiad bob blwyddyn. Mae dau fath o ddangosydd, sef –Dangosyddion Strategol Cenedlaethol a bennir gan Lywodraeth Cymru, a Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus a bennir gan lywodraeth leol. Mae’r wybodaeth a ddangosir yma yn gyfuniad o’r ddwy set hyn o ddangosyddion.

Gweld y data

Rhai o'n gwaith...

InfoBaseCymru

Mae InfoBaseCymru’n cynnig mynediad rhwydd i amrediad eang o wybodaeth am Gymru.

Llefydd Llewyrchus Cymru

Mae Llefydd Llewyrchus Cymru wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Data Cymru a Centre for Thriving Places, ac mae'n seiliedig ar Fynegai ‘Thriving Places’ Centre for Thriving Places.

Systemau lleol

Mae systemau gwybodaeth lleol yn caniatáu i wneuthurwyr polisi a dinasyddion gyrchu, dadansoddi, mapio a lawrlwytho setiau data lleol a chenedlaethol yn gymharol rwydd.

Diweddariadau data