Nod
Rhoi tipyn o gyngor, offer ac adnoddau i’ch helpu i gynllunio a chyflwyno grŵp ffocws.
Cynnwys
Mae grŵp ffocws yn golygu grŵp bach o bobl yn trafod mater, cynnyrch, person neu beth er mwyn helpu’r ymchwilydd i ddeall barn y cyhoedd ehangach amdano. Maen nhw’n cael eu defnyddio’n gyffredin i archwilio canfyddiadau, teimladau a phrofiadau pobl a grwpiau neu i gynhyrchu syniadau newydd.
Fel arfer mae grwpiau ffocws yn cynnwys chwe i wyth o bobl, sy’n cael eu harwain trwy’r drafodaeth gan un neu ddau hwylusydd. Yr hwyluswyr sy’n gyfrifol am lywio trafodaeth y grŵp a sicrhau bod pob mater wedi cael ei drafod.
Mae ein cwrs hyfforddiant yn cynnig cyngor ac arweiniad ymarferol i’ch helpu i ddeall pam, sut a phryd byddech chi’n trefnu ac yn cynnal grŵp ffocws i gefnogi’ch gwaith chi.
Canlyniadau
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn deall:
- beth yw grwpiau ffocws, eu pwrpas, a phryd i’w defnyddio
- yr elfennau allweddol mae eu hangen wrth baratoi
- sut i ddewis cyfranogwyr a sicrhau cyfranogiad, gan gynnwys dulliau i ennyn diddordeb cyfranogwyr anodd-eu-cyrraedd
- sut i gyflwyno grŵp ffocws
I bwy mae’r sesiwn
Bydd y cwrs hwn yn dddefnyddiol i unrhyw un sydd angen ymgysylltu â rhanddeiliaid, dinasyddion, neu gwsmeriaid. Mae’r cwrs yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol o gynllunio neu gyflwyno grŵp ffocws.
Diddordeb gennych?
Mae cyrsiau'n para tua 2.5 awr ac yn costio £50 ynghyd â TAW y cyfranogwr. I gadw lle ar y cwrs hwn ewch i Tocyn Cymru i weld y dyddiadau a’r amserau sydd ar gael.
Gallwn hefyd ddarparu cyrsiau hyfforddi yn benodol ar gyfer eich sefydliad. Fel arfer, rydym yn cyfyngu rhifau i 15 ond gallwn ddarparu hyfforddiant ar adeg a dyddiad sy'n addas i chi am hyd at 20 am £750 a TAW. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau neu os hoffech drafod eich gofynion yn fanylach, e-bost at ymholiadau@data.cymru neu ffoniwch 029 2090 9500.
Angen mwy o wybodaeth?
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, cysylltwch â Jonathan Owens. Jonathan yw ein Hystadegydd. Mae’n cefnogi ein gwaith dadansoddi a lledaenu data.
029 2090 9556
Johnathan.Owens@data.cymru