• This website is available in English

Data Cymru – polisi preifatrwydd (systemau)

Mae Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru (Data Cymru) yn ymrwymedig i warchod a pharchu eich preifatrwydd.

Mae Data Cymru wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) (rhif cofrestru: Z6554166). Yr ICO (Saesneg yn unig) yw corff annibynnol y DU a sefydlwyd i gynnal hawliau gwybodaeth.

Drwy ymweld â’n gwefan a’n systemau ar y we a / neu drwy eu defnyddio, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu llwyfannu a / neu eu rheoli gennym ar ran sefydliadau eraill, cymerir eich bod wedi darllen, deall a derbyn y polisi preifatrwydd hwn.

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn amlinellu pa wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu a sut byddwn yn defnyddio’r wybodaeth honno.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y defnydd a wneir o’ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni yn ymholiadau@data.cymru, drwy ein ffonio ar 029 2090 9500, neu drwy ysgrifennu atom yn Data Cymru, Un Rhodfa’r Gamlas, 4ydd Llawr, Heol Dumballs, Caerdydd, CF10 5BF.

COVID-19 a diogelu data

Mae’n bosibl y gofynnir i ni gasglu, defnyddio a diogelu data personol fel rhan o’r gefnogaeth ddata rydym yn ei darparu i’r sefydliadau sy’n ymateb i’r pandemig Coronafeirws. Ran amlaf byddwn yn gweithredu fel y Prosesydd Data a byddwn yn parhau i weithredu yn unol â gofynion y Rheolydd Data gan beidio â defnyddio’r wybodaeth rydych yn ei darparu at unrhyw ddiben arall.

Gall fod rhai amgylchiadau penodol pan ni ein hunain fydd y Rheolydd Data. Er enghraifft, rydym eisoes yn cadw data personol am ein gweithwyr. O dan yr amgylchiadau hynny lle mae data wedi cael ei roi i ni, fel Rheolydd Data, at ddiben penodol, byddwn yn ceisio rhoi gwybod i chi bod y data a ddarparwyd yn cael ei ddefnyddio at ddiben gwahanol.  Fodd bynnag, oherwydd sefyllfa bresennol y pandemig sy’n newid yn gyflym iawn ni fydd hyn bob amser yn bosibl.

Mae’n bosibl y bydd angen i ni ofyn i chi, yn yr argyfwng presennol hwn, am ddata personol gan gynnwys data personol sensitif nad ydych wedi ei ddarparu’n barod.  Y rheswm am hyn yw er mwyn i’r sefydliad gael eich cynorthwyo a’ch cefnogi yn ôl yr angen.

Lle bo hyn yn wir, y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol yw:

  • Erthygl 6 (d) GDPR y DU mae angen i ni amddiffyn eich buddiannau hanfodol.

Wrth i ni gasglu data am eich iechyd, rydym yn dibynnu hefyd ar y seiliau cyfreithlon dilynol:

  • Erthygl 9 (2) (i) GDPR y DU mae angen i ni ei gasglu at ddiben iechyd y cyhoedd; ac
  • Erthygl 9 (2) (j) GDPR y DU mae angen i ni ddadansoddi’ch gwybodaeth.

Nid oes unrhyw newid i’ch hawliau, gan gynnwys eich hawl i gwyno. Darllenwch ymlaen am wybodaeth bellach.

Newidiadau i’r polisi hwn

Byddwn yn adolygu ac yn diwygio'r polisi hwn yn unol ag unrhyw newidiadau i’r ffordd rydym yn casglu ac yn prosesu eich gwybodaeth. Sicrhewch eich bod yn gwirio’r polisi hwn yn rheolaidd.

Rhagarweiniad

Mae Data Cymru yn gweithredu fel y ‘Rheolydd Data’ ar gyfer yr wybodaeth bersonol a gasglwn gan ddefnyddwyr ein gwefannau a’n systemau ar y we, gan gynnwys ein harolygon ac ymgynghoriadau ar-lein.

Defnyddiwn SmartSurvey i gefnogi ein harolygon ac ymgynghoriadau ar-lein. Dan yr amgylchiadau hyn, mae SmartSurvey yn gweithredu fel Prosesydd Data a byddant dim ond yn prosesu’r data yn unol â’n cyfarwyddiadau ni. Gallwch weld polisi preifatrwydd SmartSurvey yma (Saesneg yn unig).

Mae gwybodaeth bellach am yr wybodaeth a gasglwn gennych chi a’r hyn rydym yn ei wneud â hi i’w gweld isod.

Pan fyddwn yn llwyfannu a/neu’n rheoli gwefannau neu systemau (gan gynnwys arolygon ac ymgynghoriadau ar-lein) ar y we ar ran sefydliadau eraill, rydym yn gweithredu fel y ‘Prosesydd Data’ – y sefydliad sy’n berchen ar y wefan neu’r system ar y we yw’r Rheolydd Data. Yn yr amgylchiadau hyn, byddwn yn gweithredu yn unol â gofynion y Rheolydd Data ac ni fyddwn yn defnyddio’r wybodaeth a ddarparwch at unrhyw ddiben arall. Nid ydym yn gwerthu eich gwybodaeth i unrhyw bartïon eraill nac ychwaith yn ei storio er mwyn cysylltu â chi am unrhyw ddiben heblaw bod hynny o dan gyfarwyddyd y Rheolydd Data. Rydym yn defnyddio safon ddiogelwch uchel ac wedi rhoi camau technegol a sefydliadol ar waith er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei brosesu mewn dull diogel. Dylai'r Rheolydd Data roi manylion i chi ar sut y defnyddir eich Gwybodaeth. Dylai'r Rheolydd Data hefyd fanylu ar sut i gael mynediad at eich gwybodaeth, sut i gyrchu eich gwybodaeth, cywiro eich gwybodaeth, cyflwyno gwrthwynebiad i’ch gwybodaeth gael ei brosesu neu unrhyw wybodaeth arall mewn perthynas â thrin a thrafod eich gwybodaeth.

Mae rhai o’n systemau ar y we wedi’u cynllunio i ganiatáu i chi lanlwytho a rhannu gwybodaeth ag eraill. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch chi eich hun neu am eraill. Yn yr achosion hyn, ni yw’r Prosesydd Data ac ni fyddwn yn defnyddio’r wybodaeth ond pan fydd hynny’n unol â’r telerau defnydd ar gyfer y system honno.

Mae’r wybodaeth rydym yn ei gasglu yn cael ei storio mewn modd diogel a sicr. Caiff yr holl ddata ei storio yn y DU neu Ewrop.

Bydd gan Ogi (NSUK gynt) (Saesneg yn unig), darparwr ein seilwaith TGCh, y gallu i gyrchu’r wybodaeth rydym yn ei gasglu. Fodd bynnag, mae eu defnydd wedi ei gyfyngu i’r hyn sydd ei angen i sicrhau bod ein systemau yn weithredol.

Gwybodaeth a gasglwn amdanoch chi a’r hyn rydym yn ei wneud â hi

Gwybodaeth fewngofnodi

Mae rhai o’n gwefannau a’n systemau ar y we yn ei gwneud yn ofynnol i chi fewngofnodi er mwyn cyrchu naill ai rannau penodol o’r wefan neu’r wefan yn ei chyfanrwydd. Lle mae hyn yn digwydd, bydd yn rhaid i chi gofrestru a darparu rhywfaint neu’r cyfan o’r wybodaeth ganlynol:

  • Enw defnyddiwr
  • Cyfeiriad e-bost
  • Enw
  • Teitl swydd
  • Manylion sefydliad
  • Rhif ffôn

Ein sail gyfreithiol ar gyfer casglu a dal yr wybodaeth hon yw ein bod yn cyflawni cytundeb (“contract”) i ddarparu mynediad i wefan na fyddai fel arall yn hygyrch i chi.

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau y caniateir mynediad priodol i systemau ac i ddarparu cymorth cwsmeriaid a help am ein gwasanaeth pan fyddwch yn cysylltu â ni. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi mewn perthynas â’r wefan. Byddwn yn sicrhau mai minimol yw’r cysylltiad hwn a’i fod at y dibenion canlynol:

  • Er mwyn gwirio eich bod yn parhau i ddymuno cael mynediad i’r wefan;
  • Er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth a gadwn yn gywir;
  • Er mwyn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i’r wefan a allai effeithio ar fynediad i’r system neu ddefnydd ohoni; ac
  • Unrhyw reswm arall sy’n rhesymol yn ein tyb ni sy’n uniongyrchol berthnasol i’r system rydych wedi eich cofrestru ar ei chyfer.

Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd angen rhannu’r wybodaeth gofrestru a ddarperir gydag arweinwyr prosiect Data Cymru neu unigolion penodol eraill cyn i fynediad gael ei ganiatáu. Mae hyn er mwyn sicrhau ei bod yn briodol caniatáu mynediad a sicrhau y darperir y lefel fynediad cywir. Os pennir nad yw’n briodol caniatáu mynediad, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir i roi gwybod hyn i chi ac yna caiff yr wybodaeth ei dileu.

Lle caniateir mynediad i ddefnyddiwr i system, caiff yr wybodaeth gofrestru ei chadw cyhyd â bod angen mynediad arnoch i’r wefan.

Gallwch gyrchu neu addasu’r wybodaeth a gadwn amdanoch chi yn ein systemau ar y we drwy eich tudalen ‘Proffil Defnyddiwr’ / ’Fy Nghyfrif’. Os hoffech wrthwynebu i ni brosesu eich gwybodaeth fel y nodir uchod, neu os nad oes angen mynediad arnoch mwyach i wefan ac yn dymuno i’ch gwybodaeth gael ei dileu, dylech gysylltu â ni.

Cysylltu â ni

Mae llawer o’n gwefannau a’n systemau ar y we yn cynnwys manylion am sut i gysylltu â ni. Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy ebost, galwad ffôn neu drwy’r post.

Pan fyddwch yn cysylltu â ni gofynnir i chi ddarparu rhywfaint o’r wybodaeth ganlynol, neu’r wybodaeth i gyd:

  • Cyfeiriad e-bost
  • Enw
  • Teitl swydd
  • Manylion sefydliad
  • Rhif ffôn

Ein sail gyfreithiol ar gyfer casglu’r wybodaeth hon yw ein bod yn cyflawni cytundeb (“contract”) i ddarparu ymateb i’ch ymholiad.

Mae'r wybodaeth a roddwch i ni yn cael ei chofnodi a'i storio'n awtomatig. Byddwn yn defnyddio hwn i ddarparu ymateb, ond nid at unrhyw ddiben arall. Byddwn yn storio’r wybodaeth hon cyhyd ag y bydd ei angen er mwyn cyflawni eich cais.

Bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth gyda chydweithwyr perthnasol Data Cymru eraill er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr ymateb gorau, ond nid yn ehangach heb eich caniatâd penodedig.

Os hoffech gyrchu neu newid yr wybodaeth a gadwn amdanoch chi, gwrthwynebu ein bod yn prosesu eich gwybodaeth fel y nodir uchod neu os ydych am i’ch gwybodaeth gael ei dileu, cysylltwch â ni.

Arolygon ac ymgynghoriadau

Mae’n bosibl y byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddarparu rhywfaint o wybodaeth bersonol wrth gwblhau arolwg neu ymgynghoriad. Pan fydd hyn yn digwydd, gwnawn yn glir beth mae ei angen arnom, y rhesymau pam rydym yn gofyn amdano a sut y caiff ei ddefnyddio.

Byddwn yn cadw’r wybodaeth rydych yn ei darparu ar ein hamgylchedd TG diogel am y cyfnod a bennir yn yr arolwg neu’r ymgynghoriad. Nid ydym yn gwerthu’r wybodaeth a rowch i bartïon eraill nac yn ei storio i gysylltu â chi am bwrpas ac eithrio’r hyn a bennir yn yr arolwg neu’r ymgynghoriad. Rydym ond yn rhannu’ch gwybodaeth â thrydydd partïon pan fo angen gwneud er mwyn cyflawni’r gwasanaeth(au) a bennir yn yr arolwg neu’r ymgynghoriad.

Os ydych yn dymuno cyrchu neu ddiwygio’r wybodaeth rydym yn ei dal amdanoch chi, gwrthwynebu i ni brosesu’ch gwybodaeth fel a fanylir uchod neu’n dymuno i’ch gwybodaeth gael ei thynnu, cysylltwch â ni.

Gwybodaeth arall

Mae rhai o’n systemau ar y we yn gofyn i chi am wybodaeth arall er mwyn caniatáu teilwra cynnwys a golygiadau yn unol â hynny. Er nad yw hyn o reidrwydd yn wybodaeth bersonol, rydym yn deall y gallai deimlo fel gwybodaeth bersonol weithiau. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi ddarparu cod post neu ddethol ardal eich awdurdod lleol. Dim ond i deilwra’r cynnwys rydych yn ei weld neu i ddarparu gwybodaeth benodol i chi y caiff yr wybodaeth hon ei defnyddio. Ni chaiff yr wybodaeth hon ei storio fel arfer ond pan gaiff ei storio, gwneir hyn gan ddefnyddio cwcis a chaiff ei storio a’i defnyddio yn unol â’n polisi cwcis (gweler isod).

Gwybodaeth a gasglwn gan holl ddefnyddwyr y gwefannau a’r hyn rydym yn ei wneud â hi

Mae ein holl wefannau a’n systemau ar y we yn casglu rhywfaint o wybodaeth a ystyrir yn ‘wybodaeth bersonol’ yn awtomatig.

Cyfeiriad IP

Caiff ffeiliau log o bob cais am ffeiliau ar ein gwefannau eu cynnal a’u dadansoddi ar ein gweinyddwyr gwe. Nid yw ffeiliau log yn casglu gwybodaeth bersonol ond maent yn casglu cyfeiriad IP y defnyddiwr, sy’n cael ei gydnabod yn awtomatig gan ein gweinyddwyr gwe.

Caiff dadansoddiad cyfanredol o’r ffeiliau log hyn ei ddefnyddio i fonitro defnydd o’r wefan neu’r system ar y we. Dyma’n diben dilys dros gasglu’r wybodaeth hon.

Mae’n bosibl y bydd y dadansoddiadau cyfanredol hyn ar gael i staff a phartneriaid Data Cymru er mwyn caniatáu iddynt fesur, er enghraifft, poblogrwydd y wefan yn gyffredinol a llwybrau nodweddiadol defnyddwyr o amgylch y wefan.

Ni fydd Data Cymru yn gwneud unrhyw ymgais i adnabod defnyddwyr unigol, ac eithrio ble mae amheuaeth resymol bod cais i gyrchu systemau heb awdurdod. Yn achos pob defnyddiwr, mae Data Cymru yn cadw’r hawl i geisio adnabod ac olrhain unrhyw unigolyn yr amheuir yn rhesymol ei fod / ei bod yn ceisio cael mynediad heb awdurdod i’n systemau cyfrifiadurol neu’n hadnoddau.

Amod o allu defnyddio’r wefan hon yw bod pob un o ddefnyddwyr ein gwefannau’n caniatáu i ni ddefnyddio’r logiau mynediad i geisio olrhain defnyddwyr yr amheuir yn rhesymol eu bod yn cael, neu’n ceisio cael mynediad heb awdurdod.

Caiff holl wybodaeth y ffeiliau log a gesglir gan Data Cymru ei chadw’n ddiogel ac ni roddir unrhyw fynediad i ffeiliau log amrwd i unrhyw drydydd parti heblaw ein darparwr TGCh, Ogi. Caiff ein ffeiliau log eu dileu yn rheolaidd.

Mae’n bosibl y storiwn gyfeiriadau IP gydag ymatebion i arolwg neu ymgynghoriad i’n helpu i nodi ymatebion dyblyg. Ni fyddant yn cael eu defnyddio i adnabod unrhyw unigolion.

Cwcis

Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefannau a’n systemau ar y we. Darnau o ddata yw cwcis a gaiff eu storio gennym ar y ddyfais rydych yn ei defnyddio i gyrchu ein gwefannau fel y gallwn adnabod ymwelwyr mynych. Nid ydym yn storio unrhyw wybodaeth a fyddai, ar ei phen ei hun, yn caniatáu i ni adnabod defnyddwyr unigol heb eu caniatâd. Ni chaiff cwcis eu rhannu gydag unrhyw drydydd partïon. Caiff unrhyw gwcis a gaiff eu defnyddio eu defnyddio naill ai ar sail ‘fesul sesiwn’ yn unig neu i gynnal dewisiadau defnyddwyr a’i gwneud yn haws i chi ddefnyddio’n gwefannau. Dyna’n dibenion rhesymol dros ddefnyddio’r wybodaeth hon.

Rydym yn defnyddio’r cwcis canlynol ar ein gwefannau:

Cwcis dadansoddol

Mae cwcis dadansoddol yn ein helpu i ddeall sut mae pobl yn defnyddio’n gwefannau. Gwnânt hyn drwy gofnodi’r hyn mae rhywun wedi’i wneud ar dudalennau a rhyngweithrediadau â’n gwefan. Rydym yn defnyddio Matomo i gasglu a llunio adroddiadau sy’n ein helpu i wella’n gwasanaethau. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr i’r safle, o ble mae ymwelwyr wedi dod i’r wefan a pha dudalennau maent wedi ymweld â nhw.

Gallwch reoli a / neu wrthod cwcis dadansoddol drwy newid eich gosodiadau. I wneud hyn, cliciwch ar logo cwci yn y wefan rydych yn ei defnyddio.

Mae polisi preifatrwydd Matomo ar gael yma (Saesneg yn unig).

Cwcis angenrheidiol

Mae cwcis angenrheidiol yn galluogi galluedd craidd. Maent yn galluogi’r dechnoleg sydd wedi’i defnyddio i greu ein gwefannau a’n systemau ar y we (ASP.NET) i weithio’n gywir.

Am fod angen y cwcis hyn i’n gwefannau weithio, mae’n rhaid i chi eu hanalluogi yng ngosodiadau eich porydd. Noder: mae newid y gosodiad ar eich porwr i wrthod cwcis yn golygu na chewch fynediad o bosibl i rai nodweddion pwysig ar ein gwefannau.

Drwy alluogi cwcis, cymerir eich bod wedi darllen, deall a chytuno i’n defnydd o gwcis.

Eich hawliau fel ‘gwrthrych data’

Mae cyfreithiau Diogelu Data yn darparu nifer o hawliau unigol i chi. Ymhlith yr hawliau hyn mae’r hawl i gyrchu gwybodaeth, yr hawl i gael eich hysbysu ynghylch prosesu, yr hawl i ddileu data a’r hawl i gamau unioni. Mae manylion pellach am eich hawliau unigol i’w gweld ar wefan (Saesneg yn unig) ICO.

Lle mai ni yw’r Rheolydd Data, gallwch gysylltu â ni i roi unrhyw rai o’r hawliau hyn ar waith, naill ai yn ymholiadau@data.cymru, neu drwy ysgrifennu atom yn Data Cymru, Un Rhodfa’r Gamlas, 4ydd Llawr, Heol Dumballs, Caerdydd, CF10 5BF.

Lle rydym yn cynnal a / neu’n rheoli gwefan neu system ar y we ar ran sefydliad arall, dylech gysylltu’n uniongyrchol â’r Rheolydd Data perthnasol i roi’ch hawliau ar waith.

Oni bai bod y gyfraith yn gofyn am neu’n caniatáu cyfnod cadw hwy, dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni dibenion prosesu y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol ar ein systemau.

Yr hawl i gwyno

Os ydych o’r farn bod Data Cymru wedi camddefnyddio’ch gwybodaeth, mae gennych hawl i gwyno. Gallwch gysylltu â'n Prif Swyddog Gweithredu (richard.palmer@data.cymru / 029 2090 9502) a byddwn yn datrys y mater cyn gynted â phosibl i atal unrhyw gam-drin pellach. Gweler ein polisi cwynion am ragor o wybodaeth.

Gallwch hefyd gwyno i’n Swyddog Diogelu Data:

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

diogeludata@caerdydd.gov.uk

Mae gennych hefyd yr hawl i gwyno at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Saesneg yn unig).

Datgeliad Angenrheidiol yn ôl y gyfraith

Er y gwnawn bob ymdrech i gynnal preifatrwydd defnyddwyr, mae’n bosibl y bydd angen i ni ddatgelu gwybodaeth bersonol pan fydd yn ofynnol gwneud hynny yn ôl y gyfraith, lle mae gennym gred ddidwyll bod angen cymryd y cyfryw gamau er mwyn cydymffurfio â gweithred farnwrol sydd ar waith, gorchymyn llys neu broses gyfreithiol a gyflwynir i’n gwefan.

Dolenni

Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Byddwch yn ymwybodol nad ydym ni, Data Cymru, yn gyfrifol am arferion preifatrwydd y cyfryw wefannau eraill. Rydym yn annog ein defnyddwyr i fod yn ymwybodol wrth adael ein gwefan ac i ddarllen datganiadau preifatrwydd pob gwefan unigol sy’n casglu gwybodaeth sy’n galluogi adnabod unigolion. Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn ymwneud â gwybodaeth a gesglir gan y wefan hon yn unig.