Cyrsiau hyfforddi
Cynigiwn amrediad o gyfleoedd hyfforddiant fel rhan o’n rhaglen adeiladu capasiti. Mae ein cyrsiau hyfforddiant yn cael eu harwain gan arbenigwyr yn eu maes a byddan nhw’n cael eu cyflwyno ar-lein. Ein nod yw cadw niferoedd ar gyrsiau i ryw 15 o bobl er mwyn hwyluso trafodaeth.
Cewch chi gadw lle ar un o’n cyrsiau a restrir ar TicketSource (Saesneg yn unig), ein partner archebu. I gael gwybod mwy, cliciwch ‘Darllenwch fwy’ wrth ymyl pob un o’n cyrsiau isod.
Gallwn hefyd ddarparu cyrsiau hyfforddi yn benodol ar gyfer eich sefydliad. Fel arfer, rydym yn cyfyngu rhifau i 15 ond gallwn ddarparu hyfforddiant ar adeg a dyddiad sy'n addas i chi am hyd at 20 o gynrychiolwyr. E-bostiwch ymholiadau@data.cymru neu ffoniwch 029 2090 9500 os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau neu os hoffech drafod eich gofynion yn fanylach.