Cyfrifo’r angen am dai newydd
Angen newydd oddi wrth aelwydydd newydd
Yn ogystal ag edrych ar yr ôl-groniad o angen o ran tai, mae angen rhagweld yr angen sy’n codi o’r newydd gan aelwydydd newydd. Y ffynhonnell ddata fwyaf cyffredin a ddefnyddir am hyn yw’r amcanestyniadau aelwyd a ddarperir yn rhad ac am ddim gan gan Lywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, mae’n bwysig bod yr amcanestyniadau rydych chi’n eu defnyddio am eich LHMA yn cyd-fynd â’r rhai a ddefnyddir yn eich Cynllun Datblygu Lleol (LDP).
At ddibenion y modiwl hyfforddiant hwn bydd amcanestyniadau Llywodraeth Cymru yn cael eu defnyddio. Mae’r amcanestyniadau ar gael ar lefel awdurdod lleol yn unig felly mae angen defnyddio dull o ddadgyfuno’r amcanestyniadau hyn i lefel islaw awdurdodau lleol. Un ffordd o wneud hyn yw trwy gyfrannau’r Cyfrifiad, er bod dulliau yr un mor ddilys yn cynnwys dyraniadau LDP neu ddata arolwg.
Seilir yr amcanestyniadau ar fudo, genedigaethau, marwolaethau a phriodasau felly gallant ddangos lleihad yn ogystal â thwf mewn meintiau rhai aelwydydd.
Gall dulliau mwy soffistigedig gael eu datblygu drwy edrych yn agosach ar oedrannau aelwydydd.
Cam 1 – Amcanestyniadau aelwydydd
Cam 2 – Dadgyfuno amcanestyniadau
Mae’n amlwg na fydd pob aelwyd sy’n ffurfio o’r newydd mewn angen o ran tai ac mae angen amcangyfrif ar faint ohonynt fydd angen cymorth. Mae hyn yn golygu dadansoddi lefelau prisiau tai, rhenti preifat a rhenti cymdeithasol i bennu’r angen am ddeiliadaethau gwahanol. Gallwch ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau i gael y data hwn fel Hometrack, gwefannau masnachol, arolygon o asiantaethau ystadau a gosodiadau, papurau newydd neu CACI Paycheck. Mae gan yr Uned Ddata gytundebau prynu cyfunol ar gyfer data Hometrack a CACI. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ()
Cam 3 - Cyfrifo cost perchnogaeth tai cost isel a rhent canolradd
Mae’r tab hwn yn dangos data incwm aelwydydd ar lefel y ward oddi wrth CACI. Mae Hometrack hefyd yn cynnwys allbwn CACI mwy cyfyngedig. Defnyddir y data incwm hwn i gymharu â phrisiau tai lleol a rhenti’r farchnad i helpu i amcangyfrif faint o aelwydydd sydd newydd ffurfio a fydd mewn angen o ran tai am LCHO, rhent canolradd a rhent cymdeithasol.
Cam 4 – Cyfrifo nifer yr aelwydydd newydd y bydd arnynt angen tai
Cam 5 – Cyfrifo’r sawl sydd wedi eu prisio allan o’r farchnad
Angen newydd oddi wrth aelwydydd sy’n bodoli’n barod
Ffynhonnell arall angen newydd sy’n codi yw aelwydydd presennol a letywyd yn foddhaol o’r blaen ond sydd bellach wedi wynebu anhawster.
Gall data’r Weinyddiaeth Gyfiawnder gael ei ddefnyddio i ddangos cyd-destun. Fodd bynnag, bydd tueddiadau o ddata digartrefedd awdurdod lleol yn rhoi sail fwy realistig am amcangyfrif dros y cyfnod LHMA.
Yn ddelfrydol, dylai’r ardaloedd mae ymgeiswyr digartref gwahanol wedi eu dewis gael eu defnyddio i ddadgyfuno’r data hwn i lefel o dan awdurdod lleol, er bod modd defnyddio data’r Cyfrifiad hefyd os nad yw’r wybodaeth hon yn cael ei chasglu neu ar gael.
Gall dulliau mwy soffistigedig gael eu datblygu drwy edrych yn agosach ar oedrannau aelwydydd (yn arbennig i amcangyfrif nifer yr aelwydydd un person sydd o dan 35 oed mewn perthynas â diwygio lles).
Cam 1 – Data’r weinyddiaeth gyfiawnder
Cam 2 – Dadgyfuno i lefel islaw awdurdod lleol