Rydym ni wedi cyhoeddi tabl cyfeirio daeryddiaethau i’ch helpu i ddeall pa awdurdod lleol, ward neu fwrdd iechyd lleol mae cod post ynddo. Rydym wedi trefnu bod hwn ar gael o ganlyniad i alw gan ddefnyddwyr a oedd yn dymuno defnyddio’r wybodaeth hon e.e. canolfannau brechu, er mwyn deall pa awdurdod lleol /bwrdd iechyd lleol mae cod post rhywun yn perthyn iddo.
Mae’r tabl hwn yn cynnwys enwau, disgrifiadau, a chodau adnabod daearyddiaethau ystadegol Cymru, o’r cod post trwodd i’r bwrdd iechyd lleol, a sut maent yn ymwneud â’i gilydd.
Mae’r data yn cael ei ddiweddaru’n chwarterol yn dilyn cyhoeddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Gallwch weld y tabl yn ein hofferynnau DataAgoredCymru ac InfoBaseCymru.