
Rydyn ni wrth ein bodd yn cyflwyno hyfforddiant DataBasic. Cafodd y rhaglen ei datblygu’n wreiddiol gan ymchwilwyr yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT), a nod hyfforddiant DataBasic (Prosiect Diwylliant Data) yw helpu unrhyw un mewn sefydliad, p’un a oes ganddyn nhw gyfrifoldeb o ran data ac ni waeth pa mor uchel maen nhw, i ddod yn fwy hyderus gyda data. Gallwch chi ddewis o unrhyw rai o’r offerynnau gwe a gweithgareddau yn y ddewislen, ond credwn ni mai ei fwynhau gyda hwylusydd yw’r ffordd orau, gan weithio trwy bob cwrs gyda charfan o gydweithwyr, dros gyfnod pedair wythnos (neu ddau ddiwrnod llawn). Gwelwn ni’r gwahaniaeth mae’n ei wneud ar gyfer dechreuwyr a staff mwy profiadol fel ei gilydd – gan feithrin hyder a chwilfrydedd wrth weithio gyda data.

Tan yn ddiweddar, roedd dwy fersiwn o hyfforddiant DataBasic ar gael – gwefan wreiddiol MIT a fersiwn ddwyieithog o’r wefan honno a ddatblygon ni gydag MIT, sy’n cynnwys setiau data enghreifftiol o Gymru.
Yna, ym mis Hydref 2022, cysylltodd Consortiwm Canolbarth y De â ni i helpu i gyfrannu at eu prosiect Data Yn Ein Byd. Oddi yno, cafodd Addysg DataBasic ei greu – fersiwn o’r wefan sydd â setiau data addas i blant, iaith symlach a ffocws ar wneud y wefan yn hawdd ei we-lywio gan addysgwyr sydd efallai’n dymuno cyflwyno’r gweithdai hyn. Ar ôl treulio cymaint o amser yn meddwl (ac yn cael ein cyffroi gan) y genhedlaeth frodorol ddigidol gyntaf o ddysgwyr, dechreuon ni feddwl am y dyfodol – sut allwn ni sicrhau dyfodol DataBasic?
Diolch i ragwelediad a haelioni ei greawdwyr, mae cod gwefan DataBasic ar gael yn gyhoeddus, sydd wedi gadael i ni greu fersiwn newydd o’r wefan y mae gennyn ni reolaeth lawn drosti. Mae hyn yn sicrhau ei hadnoddau a’i hofferynnau gwe at y dyfodol ac yn sicrhau mai ni yn unig sy’n gyfrifol am bob math o bethau, o’r cynnwys, i hygyrchedd, i breifatrwydd data.
Ein gwaith diweddar ar DataBasicCymru

Dyma rai uchafbwyntiau o’n gwaith:
- Credwn mai gwerth gwirioneddol data yw pan fo’n hygyrch i bawb ac yn cael ei ddeall gan bawb, felly aethon ni ati i wella nodweddion hygyrchedd y safle yn unol â’n safonau hygyrchedd sy’n cael eu datblygu. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod yr holl destun yn ddarllenadwy’n hawdd a bod modd defnyddio’r safle gyda llygoden, bysellfwrdd ac i ddefnyddwyr darllenydd sgrîn yn y Gymraeg a Saesneg. Rydyn ni hefyd wedi ychwanegu tudalen datganiad hygyrchedd at y safle.
- Wrth gynnal y wefan ein hunain, ysgwyddyn y cyfrifoldeb dros storio data defnyddwyr. Er mwyn iddo gyd-fynd â gwefannau Data Cymru, rydyn ni wedi ychwanegu esboniadau am breifatrwydd data trwy gydol y safle a thudalen polisi preifatrwydd i esbonio sut mae’ch data yn cael ei storio a’i ddefnyddio.
- Rydyn ni wedi diweddaru rhywfaint o’r iaith yn y safle i’w gwneud yn haws i ddechreuwyr ac wedi cyfieithu peth o Saesneg UDA weddilliol i Saesneg Brydeinig. Er enghraifft, rydyn ni wedi ychwanegu esboniadau lle roedd y safle wedi cymryd yn ganiataol o’r blaen bod gan ddefnyddwyr rwyfaint o wybodaeth o ffeiliau .csv neu ddelweddu data. Ein gobaith yw y bydd hyn yn estyn ein hygyrchedd ymhellach byth – gan sicrhau ei bod ar gael i fwy o ystodau oedran, gwahaniaethau dysgu a lefelau profiad.
- Mewn cyrsiau DataBasic yn y gorffennol, rydych chi wedi awgrymu ychwhanegu enghreifftiau symlach at rai o’n hofferynnau gwe i’w gwneud yn haws i ddechreuwyr eu deall – ac rydyn ni wedi gwrando! Rydyn ni wedi diweddaru dau we-offeryn gyda setiau data enghreifftiol newydd sy’n fwy clir neu amserol. Wrth i ni gynnal DataBasic ein hunain bellach, mae gennyn ni reolaeth uniongyrchol dros y cynnwys hwn a byddwn ni’n gallu ymateb yn gyflym i adborth defnyddwyr ynghylch data enghreifftiol yn ogystal ag agweddau eraill ar y safle. Mae hyn yn bwysig am fod deall y pwnc yn gallu roi hwb mawr i hyder. Os ydych chi’n gyfarwydd â’r data neu’r pwnc, rydych yn fwy tebygol o ddechrau ei gwestiynu a’i herio.
Dyfodol DataBasicCymru

Pam ydyn ni’n credu ei fod yn gynnig da i awdurdodau lleol? Nid yw DataBasic Cymru yn ganllaw ar gyfer set ddata benodol neu’n diwtorial mewn rhyw dechneg benodol; mae’n llwyfan i adeiladu’ch diwylliant data eich hun ac i annog ac ennyn chwilfrydedd – wedi’r cyfan, y cwestiynau gorau sy’n cynhyrchu’r atebion gorau. Rydym yn gwybod bod meithrin aeddfedrwydd data o fewn ac ar draws awdurdodau lleol yn her a dyna pam mae DataBasic Cymru yn ateb twt; gall egwyddorion gael eu haddysgu ac yna eu cymhwyso i brofiadau unigolion eu hun. Mae hyn yn hyrwyddo ymreolaeth ac yn rhoi cyfle i bobl ddangos eu harbenigedd yn eu maes.
Ystyrir yn aml bod gwaith data’n rhywbeth ‘mae’n orau i’r arbenigwyr ei wneud’ – pobl â’r gair ‘data’ neu ‘ddadansoddwr’ yn nheitl eu swydd – ond rydyn ni’n gwybod bod pawb yn defnyddio data a gwybodaeth yn eu rolau ac mae’n dod yn sgil angenrheidiol i fwyfwy ohonon ni. Gall y camsyniad hwn ennyn teimladau o ofn neu annigonolrwydd weithiau i bobl sydd heb y teitlau hynny. Dyna pam mae hwyl a chreadigedd gweithdai DataBasic yn bwysig – i’n hatgoffa’n bendant y gallwn ni i gyd gyfrannu at gynhyrchu, casglu, dadansoddi a defnyddio data yn ein rolau, beth bynnag ein lefel.
O ganlyniad i’n gwaith eleni – a’r gwaith paratoadol bendigedig a wnaed gan dîm gwreiddiol DataBasic – mae gennyn ni wefan newydd a gwell erbyn hyn a fydd yn ein cefnogi i gyflenwi hyfforddiant data i gynghorau Cymru’n well. Hefyd gallwn ni ymateb i’ch adborth nawr er mwyn gwella’r safle’n fwy rhagweithiol. Gobeithiwn y bydd hyn yn ein symud yn agosach at ein gweledigaeth o lywodraeth leol yng Nghymru sy’n hyderus o ran data.
Gallwch chi weld y newidiadau drosoch eich hunan yma a beth am roi cynnig ar weithdy neu – os oes diddordeb gennych chi mewn trefnu tipyn o hyfforddiant – siaradwch â Róisín.
Ynghylch yr awduron