• This website is available in English

Pedair gwers allweddol a ddysgais i wrth ddarparu cymorth data gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol

Blog

Mae gwaith y rhai ononon ni sy’n gweithio’n broffesiynol ym maes data yn gallu edrych yn oer ac yn amhersonol. Taenlenni a chyfrifiadau. Cod yn mynd i mewn, rhifau’n dod allan. Ac… ie, mae hynny’n weddol gywir. Ond mae ochr ddynol y rhai ohonon ni sy’n geeks data yn cael ei chydnabod a’i dathlu’n ehangach yn y blynyddoedd diwethaf. Yn wir, mae bron holl bigion fy ngyrfa wedi ymwneud mewn rhyw ffordd â natur gyfoethog, gydweithredol cymuned data’r sector cyhoeddus. Dyma un o’r straeon hynny.

Rhwng Mai a Gorffennaf 2024, cymerais i ran, fel mentor, yn rhaglen Sbarduno Delweddu Data1 Campws Gwyddor Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Trwy’r rhaglen, helpais i gydweithiwr o’r Archif Genedlaethol i ddatblygu dangosfwrdd i arddangos data’r archif i gydweithwyr a phartneriaid.

Profiad pleserus a boddhaus oedd hwn i mi – diolch i raddau helaeth i’m mentai. Yn gymaint felly iddo f’ysbrydoli i ysgrifennu’r blog yma. Yma rwy’n rhannu rhai o’r gwersi pennaf a ddysgais i:

1 I’r anghyfarwydd, roedd y rhaglenni Gwyddor Data a Sbarduno Delweddu Data yn gynlluniau mentora a reolwyd gan Gampws Gwyddor Data’r SYG. Roedd y rhaglenni yn paru egin gwyddonwyr data a dadansoddwyr data â mentoriaid a oedd â sgiliau perthnasol ar gyfer eu prosiect arfaethedig. Cafodd mentoriaid a menteion eu derbyn o bob rhan o’r sector cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol. Cafodd y rhaglenni sbarduno eu cynnal am y tro olaf yn 2024.

1. Mynnwch wneud eich trefniadau angenrheidiol yn gynnar

Blog

Rwy’n jocan bod y cylchdaith cynadleddau data wedi dysgu i mi bwysigrwydd dull moeseg-yn-gyntaf, preifatrwydd-yn-gyntaf, cydraddoldeb-yn-gyntaf, llywodraethu-yn-gyntaf, rhanddeiliaid-yn-gyntaf, data-yn-gyntaf (heb fod mewn unrhyw drefn arbennig). Ond o ddifrif, mae cynnal sgyrsiau pwysig â’r bobl gywir yn gynnar yn eich gwaith cynllunio yn hanfodol. Bydd hyn yn cynnwys siarad â chydweithwyr ym meysydd llywodraethu gwybodaeth a moeseg, y bobl sy’n gwneud penderfyniadau a chydweithwyr eraill y gallai’ch gwaith chi effeithio arnyn nhw.

Ar nodyn cysylltiedig, mae’n helpu hefyd i fod yn glir iawn – nid yn unig am beth mae’r person rydych chi’n ei gefnogi yn dymuno ei gyflawni – ond hefyd beth mae’n gobeithio ei ddysgu. Trwy wneud hynny, byddwch yn gallu cyflawni’r nod hwnnw yn ogystal â helpu i sicrhau eich bod yn addysgu’r sgiliau allweddol hynny wrth wneud.

2. Celfyddyd addysgu heb wneud (popeth)

Nod yr ymarfer yw uchafu’r gwerth i’r person rydych chi’n ei gefnogi. Gall fod yn anodd brwydro’r temtasiwn i weithio mor gyflym ag y byddech chi ar eich pen eich hun, ond mae’n bwysig peidio â chymryd drosodd. Mae pobl yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol, ond mae’r mwyafrif yn elwa ar y cyfle i wneud pethau eu hunain, yn hytrach na gwylio rhywun arall yn eu gwneud.

Mae’r dull hwn yn estyn i reoli a chynllunio’r gwaith. Anogwch y sawl rydych chi’n eu cefnogi i gymryd cymaint o gyfrifoldeb â phosibl am sut maen nhw’n dyrannu eu hamser. Mae gwneud hynny’n cynnig profiad gwerthfawr iddyn nhw mewn arwain eu gwaith eu hun. Yn ogystal, mae’n caniatáu iddyn nhw deilwra’r prosiect i ddatblygu sgiliau a dirnadaeth sy’n fwyaf perthnasol ac ystyrlon iddyn nhw.

Ar y llaw arall, dylai fod gennych chi syniad o ba rai o’ch sgiliau chi rydych chi eisiau eu blaenoriaethu, er mwyn i chi allu gwneud yn siŵr bod amser yn cael ei neilltuo i’w cynnwys. A chofiwch fod gwirio’r gwaith sydd wedi cael ei wneud yn rhan allweddol o addysgu. Cofiwch roi adborth erbyn diwedd y prosiect ar eu defnydd o’r technegau newydd ac ansawdd yr allbwn ei hun.

3. Byddwch yn gyfarwydd â gwerth eich gwybodaeth

Blog

Roeddwn i wedi cymryd yn ganiataol faint sydd i’w wybod am ddelweddu data. Yn enwedig wrth weithio mewn rôl dechnegol, mae’n hawdd anghofio gwerth y pethau bychain. Roeddwn i wedi disgwyl y byddai cryn dipyn o’n hasmer yn cael ei dreulio yn ysgrifennu cod ac yn llunio dangosfyrddau. Ond reoddwn i wedi tanamcangyfrif faint sydd i’w addysgu am yr hanfodion:

  • Pryd mae pob math o siart yn fwyaf effeithiol?
  • Sut mae ysgrifennu teitlau eglur ac addysgiadol?
  • Faint i’w roi ar bob tudalen?
  • Sut mae penderfynu pa liwiau i’w defnyddio?
  • Pryd mae siartiau’n ddatgeliadol?

Mae rhannu’r math yma o wybodaeth llawn mor bwysig â datblygu sgiliau technegol ac yn bendant yn werth ei hystyried. Gweler ein harweiniad i Gyflwyno Data am fwy o wybodaeth.

4. Mae addysgu’n wobr ynddo ei hun

Blog

Unwaith y byddwch chi’n gysurus gyda phwnc, mae’n gallu bod yn anodd sylwi ar y bylchau yn eich gwybodaeth. Mae hyn yn gallu ei gwneud yn fwy anodd parhau i wella ond hefyd yn gallu tanseilio ein hunan-gred. Mae addysgu’n rhoi prawf ar derfynau ein dealltwriaeth ac mae ganddo ffordd o gyrraedd holl silffoedd llychlyd ein hymennydd. Cadarnhaodd y profiad hwn fod addysgu’n arf gwerthfawr ar gyfer hunan-wella.

Gyda’n bywydau prysur a’n hamserlenni gwaith hectig, mae’n gallu bod yn anodd dod o hyd i’r amser i helpu pobl eraill i ddatblygu, ond mae mor werthfawr ei wneud. Yn ogystal â’r cyfle i weld rhywun arall yn tyfu a dod yn fwy hyderus, mae gennych chi gyfle hefyd i roi yn ôl a – croesi bysedd – theimlo mwynhad gweld rhywun yn cyflawni rhywbeth na fydden nhw wedi gallu ei wneud o’r blaen.

Ynglŷn â’r awdur

Rob Pascoe

Rob is our data scientist. He supports our innovative use of data and provides advice and guidance on getting the most from data.

Postio gan
y Golygydd / the Editor
25/11/2024