Mae InfoBaseCymru’n cynnig mynediad rhwydd i amrediad eang o wybodaeth am Gymru. Mae’r wybodaeth yn cynnwys ystod o themâu gan gynnwys: pobl; yr economi; addysg; iechyd; tai; yr amgylchedd; trafnidiaeth; a diogelwch cymunedol. Mae InfoBaseCymru yn cadw ac yn arddangos data am Gymru o lefel yr awdurdod lleol i lefel ardal leol (ardal gynnyrch ehangach is) yn ogystal â rhanbarthau eraill s’yn briodol ar gyfer y data.
Drwy gyrchu data’n ganolog, drwy reoli data unwaith ni waeth faint o weithiau y caiff ei ddefnyddio, a thrwy ei gyflwyno mewn amrediad o ddulliau a fwriedir i ddiwallu anghenion defnyddwyr, gallwn ni sicrhau bod gan awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill fynediad i ddata perthnasol, cyfredol yn y ffyrdd mwyaf effeithiol ac effeithlon. Mynnwch weld drosoch eich hun.
Ewch