Mae’r gwaith yn edrych ar gyfanswm yr arian i gyrff trydydd sector drwy gyfrwng grantiau neu daliadau am wasanaethau gan bob cangen o lywodraeth leol Cymru, sy’n cynnwys awdurdodau lleol, awdurdodau tân a’r heddlu a’r parciau cenedlaethol. Mae’r adroddiad data diweddaraf ar gyfer 2013-14 ar gael bellach. Mae’r dadansoddiad a gyflwynir yn dangos arian ar gyfer y trydydd sector am flwyddyn ariannol 2013-14 gan gynnwys gwybodaeth am arian ar ffurf grantiau a thaliadau am wasanaethau. Cewch edrych ar y data gan ddefnyddio’n pecyn data newydd. Cymerwch gip arno.
Ewch