Yr angen a'r cyfienwad tai presennol
Tagfa yn y gofrestr tai cymdeithasol
Un o’r ffynonellau cyntaf i’w defnyddio wrth edrych ar yr ôl-groniad angen o ran tai yw’r gofrestr dai. Mae’n ddefnyddiol os oes cofrestr dai gyffredin yn ei lle, er ei bod yn bosibl asesu cofrestri tai lluosog. Mae cofrestri tai yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am ddewisiadau ymgeiswyr, mathau a meintiau o eiddo mae eu hangen a all gael eu defnyddio i lywio’r ôl-groniad angen o ran tai.
Mae rhai amodau wrth edrych ar ddata cofrestr dai.
Yn gyntaf os bydd eich cofrestr dai yn cynnwys ceisiadau i drosglwyddo, gwnewch yn siŵr bod eich data gosodiadau hefyd yn cynnwys gosodiadau trosglwyddo (ac i’r gwrthwyneb). Bydd eich ôl-groniad ar gam os bydd un ffynhonnell ddata yn cynnwys trosglwyddiadau a’r llall heb.
Yn ail os nad oes gennych chi gofrestr dai gyffredin, bydd angen i chi gael gafael ar restr aros pob Landlord Cymdeithasol Cofrestredig. Os na allwch ddileu’r cyfrif dwbl rhwng cofrestri, bydd angen cynnal dau asesiad; y naill ar sail y gofrestr fwyaf a’r llall ar sail y cofrestri cyfunol cyfan. Bydd yr ôl-groniad gwirioneddol yn rhywle rhwng y ddau ffigur yma.
Yn drydydd, os oes modd, rhannwch yr angen o ran tai wedi ei addasu neu hygyrch yn ddau gategori; ceisiadau lle mae angen mân waith ôl-ffitio a’r rhai lle mae angen eiddo pwrpasol wedi ei addasu. Ymgorfforwch y cyntaf yn y ffigurau anghenion cyffredin a chadwch yr olaf ar wahân.
Yn olaf, er bod cofrestri tai yn ffynhonnell ddata ddefnyddiol, gallant gynnwys nifer o aelwydydd nad ydynt mewn angen o ran tai. Er enghraifft, y band isaf neu’r rhai sydd ond wedi casglu pwyntiau amser aros. Mae’n bwysig bod y rhain yn cael eu tynnu cyn gwneud y cyfrifiadau.
Yn dibynnu ar system TG eich cofrestr dai, efallai y bydd angen tynnu cofnodion sydd wedi eu dyblygu o allbwn eich rhestr aros. Mewn achosion o’r fath, dylai fod cyfeirnod unigryw fel rhif cais i’ch helpu i wneud hyn. Bydd y tiwtorialau sy’n dilyn yn mynd trwy’r broses hon. Sylwch, os nad yw’ch allbwn yn cynnwys dyblygebau neu’n defnyddio ardal dewis cyntaf, er enghraifft, ni fydd angen i chi gymryd y cam hwn.
Cam 1 – Dileu dyblygiadau
Cam 2 – Cyfrifo galw cymesur
Cyflenwad y gofrestr tai cymdeithasol
I gydbwyso’r ôl-groniad presennol mae’n bwysig ystyried nifer y gosodiadau a fydd yn dod ymlaen o’r stoc tai presennol ynghyd â’r cyflenwad tai newydd ei ymrwymo. Dau gam sydd i hyn, sef yn gyntaf cymryd cyfartaledd o’r gosodiadau a wnaed yn y tair blynedd diwethaf. Mae’n bwysig edrych yn ôl dros dair blynedd i ddileu unrhyw annormaleddau fel datblygiad sydd newydd ei adeiladu neu bolisïau gosod lleol dros dro. Yn ail, mae’n bwysig rhagweld unrhyw ddatblygiadau newydd neu gynlluniau eraill a fydd yn dod yn eu blaen yn y pum mlynedd nesaf. Bydd angen dadansoddi’r ddwy ffynhonnell hyn yn ôl ardal, deiliadaeth a math o eiddo. Mae’r ddau diwtorial nesaf yn dangos i chi sut i gymryd cyfartaledd gwerth tair blynedd o osodiadau ac ychwanegu’r cyflenwad sydd wedi ei ymrwymo.
Cam 1 – Cyfartalu gosodiadau ac ychwanegu cyflenwad sydd wedi ei ymrwymo
Cam 2 – Ychwanegu cyflenwad sydd wedi ei ymrwymo
Perchnogaeth tai cost isel/Data canolradd y gofrestr tai – tagfa
Yn ogystal â’r gofrestr tai cymdeithasol, gallwch chi gofnodi cofrestr o angen canolradd o ran tai hefyd h.y. Perchnogaeth Tai Cost Isel neu rent canolradd. Dylai hon gynnwys meysydd fel ardaloedd dewis, incwm aelwyd, maint a chynilion aelwyd. Mae hon yn ffynhonnell bwysig arall i’w hystyried wrth asesu’r ôl-groniad o angen o ran tai, yn ddarostyngedig i’r rhybuddion isod. Fodd bynnag, gallech chi hepgor y cam hwn os nad ydych yn cadw cofrestr o’r aelwydydd hyn.
Mae’n ddefnyddiol cael ardal dewis cyntaf, achos mae’r cam hwn yn gofyn am ddadansoddiad manylach o fforddadwyedd aelwyd mewn ardaloedd gwahanol.
Yn yr un modd, mae arnoch chi angen data dangosiadol am incwm a chynilion aelwyd; byddai angen ailgofrestru os nad yw’r data hwn yn cael ei gadw.
Fe’ch cynghorir i ofyn a yw aelwydydd wedi eu cofrestru hefyd ar unrhyw gofrestri tai cymdeithasol i sicrhau nad ydynt yn cael eu cyfrif dwywaith.
Fe’ch cynghorir i ofyn a fyddai aelwydydd yn fodlon derbyn rhent canolradd os bydd dadansoddiad cychwynnol yn dangos na fyddant efallai’n gallu fforddio LCHO ar hyn o bryd.
Os nad oes gennych chi bolisi dyraniadau ar wahân am LCHO, gwnewch benderfyniad polisi ar y math o uned byddech chi’n ei ddosbarthu’n ‘lefel fynediad’ am brynwyr tro cyntaf yn eich awdurdod h.y. tŷ teras neu fflat dwy ystafell wely ac ati.
Bydd y tiwtorialau nesaf yn dangos i chi sut i asesu ystyriaethau fforddadwyedd ymhlith yr aelwydydd hynny sydd mewn angen canolradd o ran tai.
Cam 1 – Tagfa o ran perchnogaeth tai cost isel
Cam 2 – Tagfa o ran rhent canolradd
Perchnogaeth tai cost isel/Data canolradd y gofrestr tai – cyflenwad
Yn ogystal ag asesu’r cyflenwad unedau rhentu cymdeithasol, mae’n bwysig hefyd ystyried unrhyw LCHO neu unedau rhentu canolradd a fydd yn dod yn eu blaen dros y cyfnod LHMA nesaf. Os bydd eich awdurdod yn defnyddio model deiliadaeth niwtral, bydd angen amcangyfrif deiliadaeth derfynol yr unedau hynny at ddibenion yr ymarfer hwn. Rhai o’r prif ffynonellau data i’w defnyddio yw’r rhaglen grant tai cymdeithasol, cyfraniadau adran 106 sydd ar y gweill, rhaglenni hunan-adeiladu cymdeithasau tai a chynlluniau prydlesu’r sector preifat.
Gan fod trosiant yn llawer is ymhlith y mathau hyn o uned, nid oes angen cymryd cyfartaledd dros flynyddoedd blaenorol. Mae’r tiwtorial sy’n dilyn yn dangos i chi sut i gwblhau’r cam hwn.
Cam 1 – Cyfrifo’r cyflenwad