Pwrpas
Nod yr adnodd hyfforddiant ar-lein yw galluogi ymarferwyr tai a fynychodd yr hyfforddiant i edrych eto ar adrannau perthnasol y cwrs hyfforddiant i gydategu’r hyn a ddysgwyd ar adeg sy’n gyfleus iddynt hwy ar ôl iddynt gasglu’r data angenrheidiol. Bydd yn eu galluogi i fabwysiadu’r fethodoleg a amlinellir yn arweiniad Llywodraeth Cymru a hefyd i’w theilwra i anghenion lleol os bydd angen. Mae’r adnodd ar gael hefyd i alluogi ymarferwyr sydd heb fynychu’r hyfforddiant i ddilyn y fethodoleg mewn ffordd fwy cost-effeithiol a chynaliadwy yn y dyfodol na darparu hyfforddiant ‘wyneb i wyneb’ pellach.
Mae’r adnodd hyfforddiant ar-lein yn cynnig cyfres o fideos tiwtorial sy’n manylu ar y camau mae eu hangen i ymdrin â’r fethodoleg a amlinellir yn arweiniad Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain i’w gweld yn yr adran ‘tiwtorialau’. Mae’r adran ‘deunyddiau’ yn rhoi templedi o daenlenni Microsoft Excel gwag a all gael eu defnyddio i gopïo’r camau.
Yn dibynnu ar amgylchiadau lleol, fel gwahaniaethau yn nifer y wardiau etholiadol o fewn ardal pob awdurdod lleol, mae’n bosibl y bydd angen addasu'r templedau hyn. Os felly, bydd angen addasu rhai o’r fformwlâu yn y sydd fideos tiwtorial er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cyfeirio at rifau’r celloedd cywir.
Mae’r adran ‘fforwm’ yn gadael i ymarferwyr gofrestru gyda man trafod er mwyn rhannu arbenigedd a chyngor.